Cabinet yn cytuno ar uwchraddio rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Powys

25 June 2025

Yn dilyn ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori cynhwysfawr, mae'r cyngor wedi diwygio ei amserlenni bysiau lleol a'i lwybrau gwasanaeth, gan ymgorffori adborth y cyhoedd i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth fwy effeithlon, cynhwysol a chynaliadwy.
Nod y rhwydwaith wedi'i uwchraddio yw cyflawni uchelgais Powys Gynaliadwy o gysylltu cymunedau ac ardaloedd â'u trefi craidd o fewn awr o amser teithio. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaethau pellter hirach ledled y sir ac ar gyfer teithio ymlaen i drefi a dinasoedd mwy ar draws y ffiniau y gallai fod angen i drigolion Powys eu cyrraedd ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau eraill sydd ddim ar gael yn lleol.
Gyda chynnydd mewn llwybrau, niferoedd bysiau a mwy o opsiynau teithio gyda'r nos ac ar y penwythnos, bydd yr uwchraddio y cytunwyd arno yn gofyn am gyllid ychwanegol o fuddsoddiad unigol o £1.349m a chynnydd blynyddol yn y gyllideb o £2.354m. Bydd y costau hyn yn cael eu cyflwyno i gyfarfod Cyngor Llawn Eithriadol ar 4 Gorffennaf i'w cymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, "Yn dilyn y cytundeb yng nghyfarfod y cabinet heddiw i uwchraddio rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y sir, ac yn amodol ar gymeradwyaeth llawn y cyngor, bydd cymunedau Powys yn gallu elwa o sir fwy cysylltiedig cyn bo hir. Nod y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi'i uwchraddio ym Mhowys yw darparu gwasanaethau mwy dibynadwy a mwy aml mewn ardaloedd gwledig gyda chysylltiadau gwell rhwng trefi a gwasanaethau allweddol.
"Os caiff y gofynion ariannu ychwanegol eu cymeradwyo gan y cyngor llawn ddechrau'r mis nesaf, bydd y contractau saith mlynedd newydd yn cael eu dyfarnu i ystod o weithredwyr trafnidiaeth lleol a rhanbarthol a fydd yn dechrau darparu gwasanaethau gwell gyda mwy o gysylltedd o fis Medi 2025.
"Ynghyd â darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus well, rydym yn falch y bydd pobl ifanc Powys hefyd yn elwa o estyniad consesiwn teithio pobl ifanc Llywodraeth Cymru (FyNgherdynTeithio) o fis Medi 2025, gan ganiatáu iddynt deithio ar fysiau yng Nghymru am £1 yn unig."
Bydd manylion y gwasanaethau newydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf.