Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw gam-drin/esgeuluso?

What is adult abuse

Os ydych yn cael eich niweidio neu'ch cam-drin, neu os ydych yn poeni am rywun arall, rhowch wybod. Os byddwch yn rhoi gwybod am bryder ac mae'n digwydd nad oes unrhyw beth wedi digwydd, ni fyddwch yn mynd i drafferthion os oeddech wir yn meddwl y gallai fod risg.

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Ffoniwch 999 os byddwch yn meddwl bod trosedd wedi'i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl.

Pwy sy'n cael ei ddiffinio fel oedolyn mewn perygl? 

Diffinnir oedolyn fel oedolyn mewn perygl os yw:

(a) yn cael, neu mewn perygl o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, a

(b) bod ganddynt anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn bodloni unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio),

(c) o ganlyniad i'r anghenion hynny, yn methu ag amddiffyn ei hun rhag y camdriniaeth neu'r esgeulustod neu'r risg o hynny.

Mae enghreifftiau o gamdriniaeth yn cynnwys:

Cam-drin corfforol - mae hyn yn cynnwys cael eich taro, eich ysgwyd, eich cicio, eich cloi mewn ystafell neu ataliaeth amhriodol.

Cam-drin rhywiol - mae hyn yn cynnwys gorfodi oedolyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol pan nad ydynt wedi rhoi neu pan na allant roi eu caniatâd.

Cam-drin seicolegol - mae hyn yn cynnwys gweiddi arnoch, eich gwawdio, neu fwlio, eich bygwth gyda niwed, cael eich beio, neu eich rheoli gan fraw neu ofn.

Cam-drin ariannol neu faterol - mae hyn yn cynnwys lladrad, twyll, camfanteisio ariannol, a phwysau mewn cysylltiad â materion ariannol neu gamddefnyddio arian rhywun arall.

Esgeulustod - mae hyn yn cynnwys methu â darparu anghenion gofal a chymorth hanfodol sy'n arwain at rywun yn cael ei niweidio.

Gwahaniaethu - mae hyn yn cynnwys cam-drin, aflonyddu, bygythiadau neu sarhad oherwydd oedran, rhyw, rhywioldeb, anabledd, hil neu gred grefyddol unigolyn.

Caethwasiaeth fodern - mae'r rhain yn cynnwys masnachu mewn pobl a llafur gorfodol.

Cham-drin Domestig

 

  

Sign Language icon