Rhoi gwybod am gamdrin oedolion
Os ydych chi'n cael eich niweidio neu'ch camdrin, neu'n poeni am rywun arall, rhowch wybod i rywun. Os ydych chi'n rhoi gwybod i rywun ac nad oes dim byd wedi digwydd mewn gwirionedd, ni fyddwch yn mynd i drafferth os oeddech chi wir yn meddwl bod perygl.
Os rydych yn gweld neu'n clywed rhywun yn cael eu niweidio neu eu cam-drin, neu os oes rhywun wedi dweud wrthych eu bod yn cael eu niweidio neu eu cam-drin:
Mewn argyfwng, peidiwch ag aros - ffoniwch 999.
- Mynnwch help meddygol os ydynt wedi cael eu brifo
- Ffoniwch yr heddlu os ydych yn tybio bod yna drosedd wedi'i chyflawni
- Gwrandewch a chysuro'r dioddefwr
- Cadwch unrhyw dystiolaeth (bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi am hyn)
- Peidiwch â rhoi pwysau ar yr unigolyn i roi gwybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd
I roi gwybod am unrhyw bryderon, ffoniwch ni :
01597 827666 (oriau swyddfa)
0845 054 4847 (oriau eraill)
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau