Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Sêr Adrodd Straeon - Disgyblion Brynhafren yn serenu yn rownd derfynol Book Slam

Image of pupils from Brynhafren C.P. School celebrate winning the Year 5 and 6 English-medium category of the Book Slam competition

30 Mehefin 2025

Image of pupils from Brynhafren C.P. School celebrate winning the Year 5 and 6 English-medium category of the Book Slam competition
Mae grŵp o ddisgyblion ysgolion cynradd wedi cael eu llongyfarch gan Gyngor Sir Powys am eu llwyddiant eithriadol mewn cystadleuaeth ddarllen o fri.

Enillodd disgyblion Ysgol G.G. Brynhafren gategori cyfrwng Saesneg Blwyddyn 5 a 6 cystadleuaeth Book Slam, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth yn gynharach y mis hwn (Mehefin).

Mae Book Slam, a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn fenter genedlaethol sy'n annog plant i ddatblygu cariad tuag at ddarllen drwy weithgareddau creadigol a chydweithredol.

Ar ôl cael eu coroni'n bencampwyr Powys, aeth y disgyblion talentog ymlaen i gynrychioli'r sir yn y rownd derfynol genedlaethol, lle cawson nhw sgôr eithriadol o 93 allan o 100.

Fel rhan o'r gystadleuaeth, bu'r disgyblion yn:

  • Cymryd rhan mewn trafodaeth am lyfr sef The Ghost of Craig Glas Castle gan Michelle Briscombe
  • Creu fideo hyrwyddo ar gyfer I Hear Dragons, antholeg farddoniaeth gan feirdd o Gymru
  • Dylunio clawr blaen a dyfyniad ar gyfer dau lyfr anhysbys, gan ddefnyddio eu teitlau a'u disgrifiadau byr yn unig.

Ffilmiwyd fideo hyrwyddo'r grŵp yn yr ysgol ac ar leoliad yn The British Ironworks, gan arddangos eu creadigrwydd, gwaith tîm, ac angerdd am adrodd straeon.

Fel enillwyr cenedlaethol, mae'r ysgol wedi derbyn £200 i'w wario ar lyfrau a bydd yn mwynhau ymweliad arbennig gan awdur i gydnabod eu cyflawniad.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn hynod o falch o ddisgyblion a staff Ysgol Brynhafren. Mae eu llwyddiant yn rownd derfynol Book Slam yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchiad o'u gwaith caled, eu dychymyg a'u brwdfrydedd dros ddarllen.

"Mae annog cariad at lyfrau yn hanfodol i ddatblygu dysgwyr hyderus, chwilfrydig, ac mae'r llwyddiant hwn yn amlygu cryfder ein hysgolion a doniau ein pobl ifanc yma ym Mhowys."

Dywedodd Alison Ellis, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynhafren: "Rwy'n hynod o falch o'r grŵp a gymerodd ran yn y gystadleuaeth hon. Mae eu cyflawniad yn adlewyrchu'r holl waith caled y wnaethant roi i'r prosiect hwn."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu