Perchnogion cartrefi gwyliau yn cael eu hannog i helpu i gynllunio gwasanaeth cofrestru newydd

1 Gorffennaf 2025

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gofyn am farn ar yr hyn y maen nhw eu heisiau a'u hangen wrth baratoi ar gyfer Bil Llety Ymwelwyr newydd sy'n cael ei basio gan y Senedd yr haf hwn.
Os caiff ei basio'n gyfraith, bydd yn ofynnol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru gael ei gofrestru, boed yn llain wersylla, carafán, llety gwyliau, Airbnb neu westy.
Yna bydd y gofrestr yn cael ei defnyddio gan gynghorau sir, fel Powys, os ydynt yn dewis cyflwyno treth ymwelwyr neu ardoll.
Gellir dod o hyd i'r arolwg 13 cwestiwn ar wefan Llywodraeth Cymru: https://surveys.wra.gov.wales/s/NR-VAP-june2025/?lang=1044678
Neu drwy safle Dweud Eich Dweud Powys: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/hub-page/cyngor-sir-powys
"Rydym yn gwybod y bydd nifer o ddarparwyr lletyau twristiaeth ym Mhowys yn cael eu heffeithio gan hyn os caiff y gyfraith newydd hon ei phasio fel y disgwylir, gan y Senedd," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus. "Dyma eich cyfle i helpu i lunio sut y byddai gwasanaeth cofrestru cenedlaethol yn gweithio, os ydych yn un ohonynt, a byddwn yn eich annog i lenwi'r arolwg."
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 18 Gorffennaf.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) ac ati (Cymru) yma: https://www.llyw.cymru/ArdollYmwelwyr