Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Fforio drwy'r Ardd o Straeon yr Haf hwn

SRC 2025 Cy

03 Gorffennaf 2025

SRC 2025 Cy
Anogir plant ledled Powys i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf a chwilota am y cysylltiad hudolus rhwng adrodd straeon a'r byd naturiol.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gwahodd plant pedair i 11 oed i ymweld â'u llyfrgell leol, gyda'r nod o ddarllen chwe llyfr dros wyliau'r haf. Gall y sialens eu helpu i ddarganfod llyfrau newydd, a mwynhau haf llawn hwyl, dychymyg ac ysbrydoliaeth awyr agored.

Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen wedi gosod y thema sef 'Gardd o Straeon - Anturiaethau ym Myd Natur a'r Awyr Agored', gan gynnig byd o straeon, creaduriaid ac anturiaethau natur i ddarllenwyr ifanc.

Mae'r sialens yn rhedeg o ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf tan ganol mis Medi, ac os fyddwch yn cofrestru yn eich llyfrgell leol, byddwch yn derbyn ffolder casglwr am ddim a gallwch gasglu sticeri a gwobrau arbennig wrth i chi ddarllen eich llyfrau. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r her yn derbyn medal a thystysgrif, taleb nofio am ddim i'r teulu, a roddir yn garedig gan Freedom Leisure, a byddant yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth raffl.

I gymryd rhan:

  • Ewch i'ch llyfrgell leol: llenwch y cerdyn cofrestru a derbyn ffolder casglwr arbennig pan fyddwch yn dechrau eich Sialens
  • Cofrestrwch ar-lein: Ewch i https://summerreadingchallenge.org.uk/ a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid, Digidol a Chymunedol: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i annog plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau'r haf. Mae'n caniatáu iddyn nhw adeiladu sgiliau a hyder newydd cyn i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau, ac yn eu helpu i barhau â'u dysgu drwy'r sialens newydd a chyffrous hon.

"Mae thema eleni, sef 'Gardd o Straeon - Anturiaethau ym Myd Natur a'r Awyr Agored', yn helpu i sbarduno cariad at ddarllen gan annog meddyliau ifanc i chwilota am natur a chreadigrwydd ar yr un pryd.

"Mae'r sialens yn rhoi'r cyfle perffaith i gael plant at ei gilydd i gael hwyl a mwynhau pŵer darllen."

Ychwanegodd Karen Napier, Prif Weithredwr The Reading Agency: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn parhau i fod yn oleuni disglair yn yr hyn a fu'n ddarlun ansicr o ddarllen plantyn ddiweddar. Bydd Gardd o Straeon yn creu mannau hudolus lle gall plant archwilio a bod yn chwilfrydig, gan gyfuno llawenydd darllen â manteision lles cysylltu â natur. Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Dapo Adeola, gan y bydd ei ddarluniau'n dod â'r anturiaethau hyn yn fyw."

Mae gan lyfrgelloedd Powys amrywiaeth o lyfrau ar gael ar gyfer y sialens, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys llyfrau lluniau, darlleniadau cyflym, llyfrau stori, llyfrau gwybodaeth a llyfrau comig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i  https://www.facebook.com/storipowysplant neu cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgell ar library@powys.gov.uk neu 01874 612394.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu