Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys

3 Gorffennaf 2025

Mae Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys (2025-2030) yn gynllun cynhwysfawr sydd â'r nod o greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy i Bowys a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r strategaeth hon yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran lleihau ac ailgylchu gwastraff dros y degawd diwethaf ac mae'n mynd i'r afael â'r heriau parhaus a achosir gan yr argyfwng hinsawdd byd-eang ochr yn ochr ag elfennau lleol a chenedlaethol eraill sy'n llywio newid.
Pum prif nod allweddol y strategaeth yw:
- Lleihau, Ailddefnyddio, Atgyweirio: Atal cynhyrchu gwastraff, ymestyn hyd oes y cynnyrch, a hyrwyddo economi cylchol.
- Ailgylchu: Cyflawni a rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70%.
- Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi: Cynyddu cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio yn y canolfannau hyn.
- Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth: Gwella sut mae gwastraff yn cael ei reoli a lleihau gweithgareddau anghyfreithlon fel tipio anghyfreithlon.
- Seilwaith: Datblygu a chynnal seilwaith i gefnogi mwy o ailgylchu a datgarboneiddio.
"Wrth ddatblygu strategaethau, mae'n bwysig cynnwys ein rhanddeiliaid yn y broses." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd 12 wythnos i geisio barn ein trigolion, aelodau, sefydliadau partner a gweithleoedd Powys ar y strategaeth ddrafft.
"Mae'r ymatebion a gawsom wedi bod yn llawn gwybodaeth a hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gymryd rhan a siarad â ni yn ystod y broses ymgysylltu.
"Rydym wedi ymgorffori'r adborth yn y strategaeth derfynol, gynhwysfawr, sy'n rhestru ein nodau ar gyfer galluogi trigolion, gweithleoedd Powys, a'r gymuned ehangach i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd lleol, lleihau eu hôl troed carbon a helpu Powys i symud tuag at economi cylchol gynaliadwy gyda'r nod o ddiogelu ein byd naturiol.
"Trwy weithredu'r camau gweithredu o fewn y strategaeth, ein nod yw cydweithio â chymunedau Powys i leihau gwastraff, hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio, cynyddu ailgylchu. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i gadw safbwyntiau ein rhanddeiliaid mewn cof wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar ddarparu gwasanaethau ledled Powys.
"Gyda'n gilydd, byddwn yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, yn lleihau ein hôl troed carbon, yn symud tuag at economi cylchol a chynaliadwy lle mae adnoddau'n cael eu gwerthfawrogi ac nid eu gwaredu, a sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb."
Bydd fersiwn derfynol Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys yn cael ei chyflwyno i Gyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer cymeradwyaeth yn dilyn cyfarfod y pwyllgor craffu.