Tybaco a fêps anghyfreithlon wedi'u hatafaelu mewn ymgyrch aml-asiantaeth

8 Gorffennaf 2025

Digwyddodd yr ymgyrch, a oedd yn targedu siopau yn Aberhonddu, Llanymynech, y Drenewydd a'r Trallwng, ddydd Mercher 2 Gorffennaf.
Canfuwyd bod gan dair o'r siopau guddfannau soffistigedig, rhai ohonynt yn cael eu gweithredu gan electromagnetau cudd. Roedd bob cuddfan yn cynnwys llawer iawn o sigaréts anghyfreithlon amheus, tybaco rholio â llaw a fêps.
Cynhaliwyd yr ymgyrch i gefnogi'r fenter genedlaethol a elwir yn Ymgyrch CeCe, sef cydweithrediad rhwng Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Safonau Masnach Cenedlaethol i atal gwerthu tybaco anghyfreithlon.
Roedd Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Ymgyrch CeCe Cymru, Gorfodi Mewnfudo'r Swyddfa Gartref a Thimau Plismona Cymdogaeth Heddlu Dyfed Powys yn cefnogi'r ymgyrch hefyd.
Mae un o'r siopau lle canfuwyd cynhyrchion anghyfreithlon amheus hefyd wedi'i thrwyddedu i werthu alcohol a bydd yr awdurdod trwyddedu yn cael ei adrodd am y gweithgaredd anghyfreithlon amheus i'w adolygu. Fe wnaeth y tîm hefyd ganfod person heb hawl i weithio yn y DU yn gweithio mewn siop.
Bydd Gwasanaethau Safonau Masnach y cyngor nawr yn ystyried sancsiynau priodol yn erbyn y busnesau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae hwn yn enghraifft dda iawn o gydweithio ar draws sawl gwasanaeth i amddiffyn yr economi leol. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn gysylltiedig â chyflawni twyll, troseddau gwyngalchu arian ac osgoi talu dyletswydd.
"Rydym am gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag y gweithgareddau anghyfreithlon hyn fel nad yw busnesau lleol cyfreithlon yn cael eu tanseilio."