Ysgolion Powys yn disgleirio mewn cystadleuaeth treftadaeth genedlaethol

15 Gorffennaf 2025

Cymerodd yr ysgolion ran yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2025, gyda'r seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ddydd Gwener, 4 Gorffennaf.
Bellach yn ei 35ain blwyddyn, mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn dathlu treftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru, gan annog dysgwyr o bob oed a gallu i archwilio a chysylltu â'u gorffennol.
Mae'r gystadleuaeth flynyddol - y mwyaf o'i math yn Ewrop - yn gwahodd ysgolion i ddatblygu prosiectau trawsgwricwlaidd sy'n adlewyrchu ar hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru, hyd yn oed pan fyddant wedi'u hysbrydoli gan themâu cyfoes.
Yr ysgolion llwyddiannus oedd:
- Enillodd Ysgol Gynradd Carreghofa £450 am eu prosiect gyda'r pennawd Sut gallwn ni hyrwyddo'r Gymraeg yn Llanymynech?
- Enillodd Ysgol Gynradd Llanbister £300 am eu prosiect Rhyfeddodau Llanbister
- Enillodd Ysgol Llangatwg yr Eglwys yng Nghymru £300 am eu prosiect Sut mae dathliadau Cristnogol o seintiau Cymru yn ein helpu i ddatblygu ein cynefin a thanio ein creadigrwydd?
- Enillodd Ysgol Gynradd Llangynidr £450 am eu prosiect Camu'n Ôl mewn Amser - Cysgodion yn Ein Tirwedd
- Enillodd Ysgol Uwchradd Llanidloes £600 am eu prosiect Effaith yr Ail Ryfel Byd ar Llanidloes a'r Ardal Amgylchynol
- Enillodd Ysgol Bro Caereinion £450 am eu prosiect Cynllun Gwallgof
- Enillodd Ysgol Bro Hyddgen £450 am eu prosiect Dylife - Ydy'r Hen Gymdeithas wedi Diflannu?
- Enillodd Ysgol Bro Tawe £300 am eu prosiect Taith i Lawr y Tawe.
Hefyd, cyflwynwyd dwy wobr unigol i:
- Grace Jarman (Ysgol Uwchradd Llanidloes) am ei phrosiect ar Feddygon Myddfai
- Liwsi Thomas (Ysgol Bro Caereinion) am ei harchwiliad o effaith Eisteddfod Maldwyn ar y gymuned leol
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn hynod falch o ddysgwyr a staff yr ysgolion hyn am eu gwaith ysbrydoledig a'u cydnabyddiaeth haeddiannol.
"Mae'r prosiectau hyn nid yn unig yn amlygu creadigrwydd ac ymroddiad ein pobl ifanc ond hefyd yn dangos gwerthfawrogiad dwfn o'r dreftadaeth sy'n siapio ein cymunedau.
"Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i gysylltu â'u cynefin - ein synnwyr o le - ac rydym wrth ein boddau yn gweld ysgolion Powys yn cael eu cydnabod am eu hymdrechion."