Dweud eich dweud - helpu i lunio dyfodol prydau ysgol yng Nghymru

17 Gorffennaf 2025

Mae'r ymgynghoriad Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn gofyn am farn ar y newidiadau arfaethedig i'r bwyd a'r diod a weinir mewn ysgolion cynradd. Nod y newidiadau hyn yw sicrhau bod deiet cytbwys, maethlon ar gael i bob plentyn yng Nghymru yn ystod y diwrnod ysgol.
Dengys tystiolaeth fod llawer o blant yng Nghymru yn bwyta ac yfed gormod o siwgr a dim digon o ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn - gan gyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra ymhlith plant. Ar hyn o bryd, caiff un o bob pedwar plentyn oed derbyn yng Nghymru ei ystyried i fod yn rhy drwm neu'n ordew.
O dan y cynigion newydd, byddai bwydlenni'r ysgol yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau, pwdinau â llai o siwgr a bwydydd wedi'u ffrio, ac yn cyd-fynd â chanllawiau dietegol y DU. Y nod yw hyrwyddo arferion bwyta'n iach, gwella iechyd a lles plant, a chefnogi eu dysgu a'u datblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol: "Rydym ni i gyd eisiau'r gorau i'n plant, ac mae hynny'n dechrau drwy roi'r tanwydd sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae'r newidiadau arfaethedig hyn yn ymwneud â mwy na bwyd yn unig - maent yn ymwneud â chefnogi iechyd, llesiant a dyfodol ein plant.
"Rwy'n annog rhieni, athrawon, cyflenwyr bwyd a phobl ifanc ledled Powys i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn cyn iddo gau. Mae eich llais yn bwysig, a gallwch helpu i lunio dyfodol iachach i'n pobl ifanc."
I gymryd rhan yn y ymgynghoriad, ewch i: https://www.llyw.cymru/bwytan-iach-mewn-ysgolion
Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Mawrth, 29 Gorffennaf.