Toglo gwelededd dewislen symudol

Môr o dalent - Disgyblion Gwernyfed yn disgleirio mewn gwobrau hinsawdd

Image of Gwernyfed High School’s Eco-Club are presented with their 2025 Climate Challenge Cymru Award

 17 Gorffennaf 2025

Image of Gwernyfed High School’s Eco-Club are presented with their 2025 Climate Challenge Cymru Award
Mae ysgol uwchradd yn ne Powys wedi cael ei llongyfarch gan y cyngor sir ar ôl ennill gwobr amgylcheddol genedlaethol bwysig.

Cafodd Eco-Glwb Ysgol Uwchradd Gwernyfed ei goroni'n enillydd categori Adfywio Ein Cefnforoedd yng Ngwobrau Her Hinsawdd Cymru 2025, gan gydnabod ymdrechion creadigol ac ymroddedig y disgyblion i ddiogelu bywyd morol a chodi ymwybyddiaeth o gadwraeth cefnforoedd.

Mae Her Hinsawdd Cymru yn gystadleuaeth arloesi genedlaethol i ysgolion ledled Cymru, wedi'i hysbrydoli gan Wobr Earthshot. Mae'n annog disgyblion i ddatblygu a rhannu atebion dychmygus i heriau amgylcheddol byd-eang drwy gyflwyniadau fideo byr.

Cyflwynir y fenter gan dîm Eco-Ysgolion Cymru o fewn Cadwch Gymru'n Daclus, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a'i nod yw grymuso pobl ifanc i gymryd camau hinsawdd ystyrlon yn eu hysgolion a'u cymunedau.

Daeth y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin 2025, ag ysgolion o bob cwr o'r wlad ynghyd ac roedd yn cynnwys areithiau allweddol gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, a ganmolodd arloesedd ac angerdd pobl ifanc sy'n arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Safodd cais Gwernyfed allan ymhlith cannoedd a gyflwynwyd gan ysgolion ledled Cymru, gan ennill lle i'r Eco-Glwb yn y rownd derfynol genedlaethol ac yn y pen draw sicrhau'r wobr gyntaf yn y categori Adfywio Ein Cefnforoedd.

Gwnaeth y tîm argraff dda ar farnwyr gyda'u syniadau ystyriol ac ymarferol i leihau llygredd cefnfor a hyrwyddo cadwraeth forol. Cydnabuwyd eu hymdrechion yn y seremoni, lle cyflwynwyd tlws a thystysgrif iddynt gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, o flaen cynulleidfa o gyfoedion, addysgwyr ac arweinwyr amgylcheddol.

Rhannodd aelodau o Eco-Glwb yr ysgol eu meddyliau hefyd am eu llwyddiant:

Dywedodd Megan: "Fe wnaethom fwynhau'r gystadleuaeth yn fawr, yn creu'r fideo a'r poster. Mae'r gystadleuaeth hon wedi ein hysbrydoli i wneud hyd yn oed mwy i helpu amgylchedd ein hysgol, ac mae gweld yr hyn y mae ysgolion eraill wedi'i wneud wedi rhoi llawer o syniadau i ni. Rydym yn hapus iawn i fod wedi cael y cyfle hwn."

Dywedodd Fleur: "Profiad cwbl fythgofiadwy. Roedd y gwaith caled, a'r hwyl, yn arwain at y gystadleuaeth yn anhygoel. Roedd y digwyddiad yn gwbl ysbrydoledig. Roedd yn ddiddorol gweld syniadau newydd a chwrdd â phobl o'r un anian sy'n gofalu am ein hamgylchedd."

Ychwanegodd Sorcha, "Nid ennill oedd y prif nod wrth ymgeisio am gystadleuaeth Newid Hinsawdd Cymru, ond edrych ar sut y gallwn ni helpu ein hamgylchedd. Roedd ennill yn ganlyniad gwych i ni. Roedd yn braf cael y gydnabyddiaeth am yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni ac fe roddodd gadarnhad inni ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth."

Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol i Ysgol Uwchradd Gwernyfed ac yn enghraifft wych o bŵer gweithredu hinsawdd dan arweiniad ieuenctid. Mae brwdfrydedd, creadigrwydd a gwaith tîm yr Eco-Glwb yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym yn hynod falch o'u llwyddiant a'r neges gadarnhaol y mae'n ei hanfon i ysgolion ledled Powys.

"Rhaid rhoi clod hefyd i'r gymuned ysgol ehangach am feithrin diwylliant cryf o gyfrifoldeb amgylcheddol. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu nid yn unig ymroddiad y disgyblion ond hefyd ymrwymiad yr ysgol i rymuso pobl ifanc i arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur."

Meddai Mrs Sian Jenkins, Pennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Gwernyfed: "Rydym yn falch iawn o'n disgyblion creadigol, arloesol a rhyfeddol yn Eco-Glwb Ysgol Uwchradd Gwernyfed. Mae eu brwdfrydedd dros ddiogelu ein cefnforoedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Gyda'n gilydd, gallwn gydweithio i sicrhau dyfodol mwy disglair i'n planed a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

"Rydym yn dathlu cyflawniadau ein myfyrwyr ac yn edrych ymlaen at eu hymroddiad parhaus."

Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth, ewch i Cadwch Gymru'n Daclus.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu