Taliadau parcio newydd o 1 Awst 2025

21 Gorffennaf 2025

O 1 Awst 2025, dyma fydd y costau i barcio car ym meysydd parcio'r cyngor:
£1.50 - Hyd at 1 awr
£2.50 - 1-2 awr
£3.50 - 2-4 awr
£5.00 - Dros 4 awr
Am ddim - Dros Nos
Ochr yn ochr â'r argymhellion hyn, bydd y newidiadau a gytunwyd yn flaenorol i drefniadau parcio deiliaid Bathodyn Glas hefyd yn cael eu cyflwyno. Bydd angen i ddeiliaid Bathodyn Glas brynu tocyn talu ac arddangos ym meysydd parcio'r cyngor nawr, ond byddant yn derbyn awr ychwanegol ar ôl i'w tocyn ddod i ben.
Mae gan bob maes parcio bellach yr opsiwn i dalu dros y ffôn gan ddefnyddio'r ap PayByPhone. Mae'r cyfleuster newydd hwn yn golygu y gall gyrwyr dalu am eu sesiwn barcio a'i rheoli drwy eu ffonau a dewis derbyn negeseuon testun atgoffa pryd mae eu sesiwn barcio ar fin dod i ben. Mae'r opsiwn i dalu ag arian parod, neu gerdyn yn y rhan fwyaf o feysydd parcio, yn parhau.
"Roedd ailgyflwyno'r tariff parcio am awr i feysydd parcio hirhoedlog yn rhywbeth roedden ni'n awyddus i'w gynnwys, er bod gwneud hynny wedi golygu rhai addasiadau eraill i'n cyllidebau." meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach. "Defnyddir incwm a gynhyrchir drwy daliadau parcio i gynnal a gwella'r meysydd parcio ym Mhowys, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben, yn gyfoes ac yn ddiogel i bawb eu defnyddio."
Bydd trwydded maes parcio sengl newydd (i'w defnyddio mewn un maes parcio penodol yn unig), gan arbed tua 25% i yrwyr, yn cael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y costau fydd £280 (bob blwyddyn), £155 (6 mis), £90 (3 mis) a £30 (1 mis).
I gael rhagor o fanylion am daliadau parcio, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/4699/Ffioedd-safonol-y-meysydd-parcio