Ysgol Uwchradd Y Trallwng

22 Gorffennaf 2025

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Uwchradd Y Trallwng ar ôl i arolygwyr Estyn fod o'r farn bod angen mesurau arbennig ar gyfer yr ysgol.
Cafodd yr ysgol ei harolygu gan arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru ym mis Mai.
Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, sydd wedi'u derbyn gan yr ysgol a'r cyngor, yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen eu gwella.
Bydd swyddogion y cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn cydweithio i nodi rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael eu cefnogi'n llawn yn ystod y daith wella.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys sy'n Dysgu: "Heddiw rwy'n rhannu'r siom y mae pawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd y Trallwng yn ei phrofi.
"Mae'r adroddiad arolygu Estyn hwn yn darparu asesiad clir a gonest o'r heriau y mae'r ysgol yn eu hwynebu ac yn cynnig canllawiau hanfodol ar y camau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant ystyrlon.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda thîm uwch arweinyddiaeth yr ysgol i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Gyda'n gilydd, byddwn yn canolbwyntio ar yr argymhellion a amlinellwyd gan Estyn, gan adeiladu ar gryfderau presennol yr ysgol wrth fynd i'r afael â'r meysydd sydd angen sylw brys.
"Mae hyn yn nodi dechrau taith wella benderfynol i'r ysgol a'i chymuned."
Dywedodd Jeff Johnson, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd y Trallwng: "Er ein bod yn siomedig gan rywfaint o gynnwys adroddiad Estyn, rydym yn cydnabod hwn fel cyfle i barhau â'n taith ar hyd llwybr gwelliant.
"Mae'r ysgol yn croesawu argymhellion y tîm arolygu a bydd yn gweithio'n ddiflino ochr yn ochr â'r cyngor ac Estyn i wneud gwelliannau cyflym a chynaliadwy."
I weld adroddiad yr archwiliad, ewch i www.estyn.llyw.cymru