'Creu Straeon, Nid Sbwriel': Cyngor Sir Powys yn ymuno â Cadwch Gymru'n Daclus i fynd i'r afael â sbwriel

30 Gorffennaf 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i annog pawb - preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd - i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel, yn enwedig os bydd biniau'n llawn neu ddim ar gael. Mae'r neges yn syml: ewch â'ch sbwriel gartref a gadewch dim olion ar ôl.
Mae sbwriel yn parhau i fod yn bla mewn cymunedau, yn bygwth bywyd gwyllt ac yn niweidio ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr. Mae ffigurau diweddar wedi datgelu bod pecynnau bwyd brys wedi eu canfod ar 26.4% o strydoedd a sbwriel diodydd ar 43.6% - arwydd clir bod diwylliant o daflu i ffwrdd yn cael effaith niweidiol ar bob cwr o Gymru.
Mae'rCyngh Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, yn wirfoddolwr rheolaidd gyda'i grŵp casglu sbwriel lleol ac mae'n gweld drosti'i hun yr effaith y mae sbwriel yn ei chael ar ein hamgylchedd lleol. Dywedodd y Cyngh Charlton:
"Mae sbwriel mor niweidiol i'n hamgylchedd ac mae'n amharu cymaint ar ein sir hardd. Mae'n cael effeithiau dinistriol ar ein cymunedau lleol a'n bywyd gwyllt. Mae clirio ar ôl pobl anghyfrifol sy'n gollwng sbwriel hefyd yn gostus ac yn waith peryglus ar ffyrdd prysur.
"Peidiwch ag anghofio ei bod hefyd yn drosedd o dan Adran 87 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i ollwng sbwriel. Nid oes unrhyw esgus mewn gwirionedd a byddem yn annog unrhyw un sydd allan o gwmpas y lle i roi eu sbwriel mewn bin neu i fynd ag ef adref gyda nhw i'w daflu i ffwrdd, neu ei ailgylchu'n gywir."
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus:
"Mae ein parciau, ein traethau a'n mannau gwyrdd i gyd yn greiddiol i'r hyn sy'n gwneud Cymru mor arbennig. Mae gennym i gyd ran i'w chwarae yn gofalu amdanynt.
"Mae'n syml: os ydych yn dod ag ef gyda chi, ewch ag ef gartref. Dewch i ni fwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig yr haf hwn, heb ddifetha'r profiad i eraill neu niweidio'r amgylchedd. Dewch i ni greu straeon, nid sbwriel."
Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Gymru, nod yr ymgyrch yw ysgogi teimlad o falchder a chyfrifoldeb ar y cyd ar draws Cymru - gan brofi y gall hyd yn oed newidiadau bach mewn ymddygiad wneud gwahaniaeth mawr i'r mannau yr ydym yn eu caru a'u rhannu.
I ganfod mwy, ewch i: www.keepwalestidy.cymru