Gallai mwy na 700 o bobl ag anabledd fod yn colli incwm ychwanegol

1 Awst 2020

Defnyddiodd y cyngor sir ddadansoddiadau data i'w hadnabod a bydd yn ysgrifennu at bob un ohonynt dros yr wythnosau nesaf i'w hannog i wirio a ydynt yn gymwys am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Os ydynt, gallent fod yn filoedd o bunnoedd yn well eu byd bob blwyddyn.
Mae'r bobl y mae'r cyngor yn credu y gallent fod yn gymwys yn derbyn Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ac yn cael eu hystyried fel rhai sydd â Galluedd Cyfyngedig ar gyfer Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith (LCWRA) (y cyfeirir atynt weithiau fel grŵp cymorth ESA).
Fodd bynnag, er iddynt gael eu hasesu fel rhai sydd â gallu cyfyngedig i weithio, nid yw dros 700 o oedolion o oedran gweithio ym Mhowys yn hawlio PIP.
Gall PIP helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych y ddau beth canlynol:
- cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor neu anabledd
- anhawster gwneud rhai tasgau bob dydd neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr
Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych yn gweithio, bod gennych gynilion neu'n cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.
Rhagor am PIP (Taliad Annibyniaeth Personol): https://www.gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip
Mae'r llythyr gan y cyngor yn esbonio'r Taliad Annibyniaeth Personol ac yn cynnig helpu'r rhai sy'n ei dderbyn i wneud cais, os oes angen.
"Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd hirdymor, a bod angen help arnoch gyda thasgau bob dydd, neu fynd o gwmpas, yna gallech fod yn gymwys ar gyfer PIP," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach. "Rydym yma i helpu, os oes angen, ac eisiau sicrhau bod pawb yn derbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo, yn enwedig aelwydydd â phlant. Bydd mwy na 200 o'r llythyrau hyn yn mynd at rieni, neu oedolion eraill sy'n gofalu am blentyn ym Mhowys."
Er mwyn helpu i nodi'r rhai sydd â'r angen mwyaf, mae'r cyngor wedi buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data deallus am flwyddyn, o'r enw LIFT (Traciwr Teulu Incwm Isel).
Ychwanegodd y Cynghorydd Dorrance: "Dylai platfform LIFT ein helpu i dargedu ein cymorth lle mae ei angen fwyaf."
Ym mis Mehefin, ysgrifennodd y cyngor at bron i 900 o aelwydydd ym Mhowys, ble'r oedd posibilrwydd ym marn y cyngor eu bod yn cael trafferthion ariannol wrth i filiau a phrisiau eraill godi, i gynnig help iddynt.
Gwahoddwyd y rhai a dderbyniodd y llythyr hwn i gysylltu â'r cyngor a chael mynediad at gymorth cyfrinachol am ddim, gan gynnwys:
- Cymorth gyda rheoli biliau cartrefi a chostau ynni
- Canllawiau ar fudd-daliadau a hawliau
- Cymorth gyda chyllidebu a rheoli dyled
- Cyngor wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau personol
Ac mae'r cymorth hwn ar gael o hyd iddynt hwy neu unrhyw un arall sy'n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol.
Gall cynghorwyr hyfforddedig ac achrededig y cyngor gynnig cymorth ar-lein, dros y ffôn neu'n bersonol mewn swyddfa cyngor, yn eich cymuned neu hyd yn oed eich cartref eich hun.
Cael help fel tenant y cyngor:
- Ffôn: 01597 827464
- E-bost: fsogroup@powys.gov.uk
- Gwefan: Gwybodaeth am Swyddogion Cymorth Ariannol
Ar gyfer pob aelwyd arall:
- Ffôn: 01597 826618
- E-bost: wrteam@powys.gov.uk
- Gwefan: Cais am Gyngor Ariannol neu Gymorth Macmillan