O dŷ i gartref - teulu Powys yn croesawu'r Dirprwy Arweinydd

4 Awst 2025

Symudodd Courtney James a'i theulu i un o'r pedwar eiddo dwy ystafell wely ym Mharc Brynygroes, a brynwyd gan y cyngor fel rhan o ymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a darparu cartrefi mwy fforddiadwy i bobl leol.
Siaradodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach, â Courtney fel rhan o'i ymweliad i weld y cartrefi newydd a brynwyd fel rhan o 'Gynllun Parod gan Morgan Homes, sy'n adeiladu 110 o gartrefi newydd ym Mharc Brynygroes.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance: "Roedd yn bleser mawr ymweld â Courtney a gweld pa mor dda y mae ei theulu wedi ymgartrefu yn eu cartref. Roedd clywed faint mae'r cartref hwn wedi'i olygu iddyn nhw yn hynod gyffrous.
"Mae'n amlwg bod y cartrefi hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Maen nhw'n fwy na dim ond brics a morter - nhw yw'r sylfaen ar gyfer Powys gryfach, tecach a gwyrddach.
"Mae pawb yn haeddu lle diogel, sicr a fforddiadwy i fyw, ac rwy'n falch ein bod yn cyflawni'r addewid hwnnw drwy ein buddsoddiad mewn tai cyngor o ansawdd uchel."
Gan rannu'r hyn y mae'r cartref newydd yn ei olygu iddi, dywedodd Courtney: "Rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael cynnig un o'r cartrefi newydd hyn gyda Chyngor Sir Powys.
"Rydym wedi ymgartrefu'n dda iawn ac mae'n gymdogaeth hyfryd i fagu fy merch ifanc ynddi. Mae'n ardal hyfryd ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'n datblygu wrth iddynt barhau i adeiladu cartrefi mwy cyfeillgar i'r amgylchedd."
Sicrhawyd y pedwar cartref fel rhan o'r cytundeb cynllunio ar gyfer datblygiad Parc Brynygroes, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ran o'r safle gael ei dyrannu ar gyfer tai fforddiadwy. Bydd y cartrefi sy'n weddill yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored gan y datblygwr.
Mae prynu'r pedwar cartref yn cefnogi 'Gartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai' y cyngor, rhaglen pum mlynedd i gynyddu nifer y cartrefi diogel o ansawdd uchel sydd ar gael i'w rhentu'n gymdeithasol ledled y sir.