Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth gellir ei wneud fel bod seiclo a cherdded yn eich ardal yn haws?

Image of an active travel path

6 Awst 2025

Image of an active travel path
Mae ymarfer ymgysylltu, i nodi meysydd gwelliant o ran llwybrau teithio llesol yn y dyfodol ym Mhowys, wedi dechrau.

Efallai mai rhywle diogel i adael eich beic wrth i chi alw heibio i'r siopau fyddai hyn.  Efallai y byddai lôn seiclo yn gwneud i chi deimlo'n fwy hyderus i seiclo ar y ffordd. Efallai y byddai croesfan sebra yn caniatáu i ddisgyblion gerdded yn ddiogel i'r ysgol ac oddi yno. Neu efallai fod angen gwella'r palmant fel ei fod yn haws cerdded i'r dref gyda'r plant a chadair wthio. Mae llawer o wahanol opsiynau y gellir eu hystyried i wella'r llwybrau 'teithio llesol' cyfredol yn eich tref neu'r rhai i'r dyfodol.

Yn ystod y gwaith adnewyddu diwethaf ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) yn 2020, nodwyd mwy na 500 o lwybrau posibl yn y dyfodol gan randdeiliaid ar draws yr 11 ardal ddynodedig; Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Crug Hywel, Tref-y-clawdd, Llandrindod, Llanidloes, Machynlleth, y Drenewydd, Llanandras, Y Trallwng ac Ystradgynlais (aneddiadau â poblogaeth o dros 2000, fel y nodwyd gan y Gweinidog yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013).

"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl gerdded a seiclo." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach.

"Gyda'ch cymorth chi, yn ystod yr ymarfer ymgysylltu 12 wythnos hwn, rydym yn bwriadu adnewyddu'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol presennol a ddatblygwyd eisoes gan gymunedau yn 2016/17 ac eto yn 2020/22). Rydym yn awyddus i gael eich adborth, allwch chi ein helpu ni i ddiweddaru'r llwybrau a gafodd eu dewis yn flaenorol gan randdeiliaid oddi fewn i'r 11 lleoliad dynodedig (y trefi mwyaf ym Mhowys). A oes unrhyw beth wedi newid? A oes unrhyw beth arall y dylem fod yn ei ystyried? A yw'r llwybrau'n dal yn berthnasol? Rydym am glywed barn pobl sydd naill ai'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'n trefi. Mae hyn yn cynnwys grwpiau cymunedol, ysgolion, teuluoedd ac unigolion.

"Unwaith y bydd yr holl awgrymiadau wedi'u nodi a'u dadansoddi, bydd Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft newydd ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus terfynol y flwyddyn nesaf."

I gael gwybod mwy am gynlluniau teithio llesol y cyngor ac i roi gwybod i ni am eich syniadau ar wella llwybrau teithio llesol yn eich ardal, ewch i: Dweud Eich Dweud: Helpwch i Lunio Rhwydwaith y Teithio Llesol ym Mhowys | DataMapCymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu