Helpu eraill i barhau i fod yn annibynnol - dychwelyd offer diangen Heddiw

13 Awst 2025

O fframiau cerdded a chadeiriau olwyn i welyau a chadeiriau, gall dychwelyd offer cymunedol diangen wneud gwahaniaeth gwirioneddol - gan helpu eraill ledled Powys i barhau i fod yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Gellir ailgylchu ac ailddefnyddio llawer o'r offer hwn, sydd hefyd yn arbed arian i Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac yn helpu i leihau gwastraff.
Ni ddylai preswylwyr boeni os yw'r offer sydd ganddynt â sticer NRS - cyn cyflenwr nad yw'n gweithredu mwyach - gellir ei ddychwelyd o hyd i ddarparwr Gwasanaeth Offer Cymunedol presennol y cyngor - Millbrook Healthcare.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Rydym yn gwybod bod gan lawer o bobl offer gartref o hyd sydd â sticeri NRS arno, ac rydym am sicrhau pawb y gellir dychwelyd yr eitemau hyn o hyd.
"Mae dychwelyd offer yn helpu eraill yn ein cymuned ac yn cefnogi ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a defnyddio adnoddau'n gyfrifol. Gwiriwch eich cartrefi a helpwch ni i ledaenu'r neges - os nad oes ei angen arnoch fwyach, dywedwch wrthyn nhw am ei ddychwelyd fel y gellir parhau i'w ddefnyddio."
I ddychwelyd offer, gall preswylwyr:
- Ffoniwch Millbrook Healthcare ar 0345 123 6350 i drefnu casglu offer.
- Neu fynd ag eitemau'n uniongyrchol i: Uned 64, Ystad Ddiwydiannol Mochdre, Y Drenewydd, Powys, SY16 4LE (oriau agor: 9am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)