Dysgwyr Powys yn cael eu llongyfarch ar eu canlyniadau TGAU a Lefel 2

21 Awst 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn falch iawn o ddathlu llwyddiant dysgwyr ledled y sir sydd wedi cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnynt i gymryd eu camau nesaf - boed hynny'n parhau ag addysg, dechrau hyfforddiant, neu gychwyn prentisiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Anfonaf fy llongyfarchiadau cynhesaf i'n holl ddisgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU a Lefel 2 heddiw.
"Rwy'n hynod falch o lwyddiannau ein dysgwyr ac wedi fy ysbrydoli gan straeon eu gwaith caled a'u penderfyniad.
"Hoffwn hefyd diolch i staff ymroddedig ein hysgolion sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hastudiaethau, yn ogystal â'r teuluoedd sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth annog ac arwain eu plant.
"Wrth i ddysgwyr edrych ymlaen, rwy'n eu hannog i ystyried yr amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael, gan gynnwys opsiynau Chweched Powys.
"Dymunaf y gorau i bawb yn eu camau nesaf."
Am ragor o wybodaeth am opsiynau Chweched Powys, ewch i www.powys6.cymru