Grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer busnesau, gwerth hyd at £25k

21 Awst 2025

Mae'r rhain yn cael eu cynnig gan y cyngor sir ac yn cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Gellir defnyddio Grantiau Cyfalaf Busnes Powys i:
- gefnogi prynu offer sy'n hybu cynhyrchiant neu ar gyfer creu cynhyrchion neu wasanaethau newydd, neu
- gefnogi buddsoddiad mewn technolegau gwyrddach, fel cael systemau goleuadau neu wresogi newydd sy'n fwy cynaliadwy na'r rhai sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Rhaid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn dydd Llun 15 Medi, gyda disgwyl i fusnesau llwyddiannus gyflwyno eu ceisiadau llawn cyn diwedd y dydd ar ddydd Gwener 3 Hydref.
"Rydym yn cynnig y grantiau hyn fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau yn ystod y cyfnod heriol hwn," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Rydym am helpu mentrau lleol a mewnfuddsoddwyr ar bob cam o'u datblygiad, i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol.
"Mae'r grantiau cyfalaf hyn wedi'u hanelu'n benodol at hybu cynhyrchiant ac adeiladu cynaliadwyedd hirdymor."
Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys. Rhaid i arian cyfatebol fod yn arian parod, yn hytrach na chyflenwi gwasanaethau neu ddeunyddiau, ac o ffynonellau yn y sector preifat.
Gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Cyfalaf Busnes Powys nawr: Sut i wneud cais
Pan fydd cais wedi'i gymeradwyo, rhaid i'r busnes dalu 100% o gost y prosiect cyn derbyn y grant y cytunwyd arno fel ad-daliad.
Mae'r broses ymgeisio yn un cystadleuol, a bydd gwerth am arian a'r effaith ddisgwyliedig yn ffactor allweddol pan fydd prosiectau'n cael eu gwerthuso a'u dewis.
Mae'r grant yn agored i ficro fusnesau, busnesau bach a chanolig (hyd at 250 o weithwyr), sydd wedi bod yn masnachu am chwe mis neu fwy o fewn y sectorau canlynol:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
- Adeiladu
- Diwydiannau Creadigol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
- Gwybodaeth, Technoleg a Thelegyfathrebiadau
- Gwyddorau Bywyd
- Bwyd a Diod
- Twristiaeth
- Mân-werthu
- Gofal
Bydd ceisiadau o sectorau eraill, heblaw am ffermio, pysgota, coedwigaeth a gwasanaethau statudol, yn cael eu hystyried, ar sail eu gwerth i'r economi leol.
Rhaid cyflwyno a thalu am bob prosiect sy'n gysylltiedig â'r grant erbyn 18 Ionawr 2026.
Mae Cyngor Sir Powys hefyd am glywed gan gwmnïau, yn y sir a thu allan iddi, sydd angen safleoedd neu eiddo newydd i'w helpu i ehangu.
Gallant ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon i ddarparu eu manylion cyswllt, fel y gall swyddogion cymorth busnes gysylltu â chi: https://powysapi.evolutive.co.uk/form/anonymousform/67d2d993b18d8d42d1a24c95?&redirecturl=
Ychwanegodd y Cynghorydd Gibson-Watt: "Rydym am helpu busnesau Powys i gyrraedd eu potensial llawn, felly rhowch wybod i ni os gallwn wneud unrhyw beth i'ch helpu i ddod o hyd i'r safle neu'r eiddo newydd sydd ei angen arnoch nawr neu ymhen ychydig flynyddoedd."
Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau am ddatblygu economaidd ym Mhowys anfon e-bost at: economicdevelopment@powys.gov.uk
LLUN: Derbyniodd CastAlum, yn Y Trallwng, Grant Twf Busnes drwy Gyngor Sir Powys y llynedd gwerth £25,000, ac fe'i defnyddiwyd tuag at y gost o ddiweddaru dau o'i beiriannau dei-gastio. Dyma nhw gydag un o'r peiriannau y maen nhw wedi ei ddiweddaru (o'r chwith): Karl Meredith, Rheolwr Gyfarwyddwr; Simon Grimwade, Rheolwr y Ffatri; a Neil Simmonds, Rheolwr Cynnal a Chadw.