Ysgol Gynradd Llanandras

26 Awst 2025

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Gynradd Llanandras yn dilyn arolwg ohoni gan Estyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin.
Canfu Estyn fod yr ysgol yn amgylchedd cynhwysol a meithringar lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a'i fod wedi cynllunio cwricwlwm eang a diddorol sy'n cefnogi gwybodaeth disgyblion am eu hardal leol, Cymru a'r byd ehangach. Fodd bynnag, roedd arolygwyr o'r farn bod angen gwella sylweddol ar yr ysgol yn dilyn yr arolwg.
Mae'r ysgol a'r cyngor wedi derbyn yr adroddiad a'r argymhellion, a fydd yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen gwella.
Bydd yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda swyddogion y cyngor i nodi'r rhesymau dros ganlyniadau'r arolwg ac i gyflawni'r gwelliannau sy'n ofynnol. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y daith gwella.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn cydnabod canfyddiadau Estyn a'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn Ysgol Gynradd Llanandras. Mae'r adroddiad yn rhoi cyfeiriad clir, ac rydym wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi arweinyddiaeth yr ysgol wrth wneud y newidiadau angenrheidiol.
"Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argymhellion a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob dysgwr."
Dywedodd Lynne Owens, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanandras: "Mae sylwadau cadarnhaol yn adroddiad Estyn sy'n nodi bod yr ysgol yn amgylchedd cynhwysol a meithringar lle mae'r holl ddisgyblion yn cael eu gwerthfawrogi. Mae gan yr ysgol gwricwlwm eang a diddorol sy'n cefnogi gwybodaeth disgyblion am eu hardal leol, Cymru a'r byd ehangach.
"Rydym yn derbyn yn llawn yr argymhellion sydd wedi eu cyflwyno gan Estyn i wneud y gwelliannau angenrheidiol i symud yr ysgol yn ei blaen. Fel Corff Llywodraethu byddwn yn gweithio'n agos gyda'r ysgol a'r awdurdod lleol i gyflawni'r argymhellion."
I weld adroddiad y arolwg, ewch i https://www.estyn.llyw.cymru/