Prisiau a thocynnau

Tocynnau i oedolion
- Mae tocynnau sengl i oedolion ledled Powys yn seiliedig ar gyfrifo'r pellter 'fel y byddai'r frân yn hedfan'
- Bydd cap o £4.00 yn weithredol.
- Nid oes tocynnau dwyffordd ar gael mwyach. Fe'u disodlwyd gan docynnau sengl sy'n cynnig gwell gwerth am arian neu'r tocynnau dydd.
Teithio i blant a phobl ifanc
Prisiau Newydd ar gyfer Pobl Ifanc (16 - 21 oed)
- Mae hawl gan gwsmeriaid rhwng 16 a 21 oed prisiau bysiau rhatach gyda FyNgherdynTeithio:
- Bydd Tocynnau Sengl yn £1.00
- Bydd Tocynnau Dydd Cymru Gyfan yn £3.00
- Dim ond ar y bws y gellir prynu'r rhain gyda FyNgherdynTeithio dilys.
Prisiau Newydd i Blant (5-15 oed) - yn dechrau ym mis Tachwedd 2025
- O fis Tachwedd 2025 ymlaen, bydd hawl gan blant rhwng 5 a 15 oed i docynnau bysiau rhatach fel rhan o gynllun FyNgherdynTeithio:
- Bydd Tocynnau Sengl yn £1.00
- Bydd Tocynnau Dydd Cymru Gyfan yn £3.00
- Dim ond ar y bws y gellir prynu'r tocynnau hyn.
4 oed ac iau
Gall cwsmeriaid 4 oed ac iau deithio am ddim ar wasanaethau bysiau Powys.
Tocynnau teithiau byr mewn trefi
Bydd tocynnau teithiau byr mewn trefi yn costio £1.50 i bob oedolyn sy'n talu a byddant ar gael yn y trefi canlynol:
- Ystradgynlais
- Aberhonddu
- Llandrindod
- Y Drenewydd
- Y Trallwng
- Machynlleth
Gellir gweld manylion ffiniau'r trefi ar y Map Rhwydwaith.
Tocynnau Dydd
Mae rhwydwaith Bysiau Lleol Powys wedi'i rannu'n dri pharth:
- Sir Drefaldwyn a Mwy (Parth y Gogledd)
- Sir Faesyfed a Mwy (Parth Canol)
- Sir Frycheiniog a Mwy (Parth y De)
Bydd tocynnau ar gyfer teithio ym mhob parth yn costio £7 i Oedolyn a £4.60 i Blentyn (5 i 15 oed). I'r rhai sydd am deithio ar draws mwy nag un parth, ystyriwch Docyn Crwydro Dydd Powys.
Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu pum Tocyn Diwrnod am bris pedwar ar y bws neu drwy Ap TrawsCymru. Rhaid defnyddio'r Tocynnau Pum Diwrnod o fewn 90 diwrnod.
Gellir prynu Tocynnau Dydd ar y bws neu drwy Ap TrawsCymru.
Gellir gweld rhagor o fanylion am ffiniau'r parth Tocynnau Dydd ar y Map Rhwydwaith.
Tocynnau Crwydro Dydd Powys (gan gynnwys Tocynnau Teulu)
Mae Tocynnau Crwydro Dydd Powys yn cynnig y gwerth gorau am arian i'r rhai sydd am deithio ar draws mwy nag un o'r tri pharth Tocynnau Dydd. Mae Tocyn Crwydro Dydd Powys yn rhoi teithio diderfyn i chi ar wasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan am y diwrnod cyfan, sy'n golygu y gallwch dorri eich taith pryd bynnag ac ymhle bynnag yr hoffech.
Gellir prynu'r tocynnau hyn ar y bws neu drwy Ap TrawsCymru:
- £9 i oedolyn
- £6 i blentyn
- Tocyn teulu am £18 (2 oedolyn a hyd at 3 o blant NEU 1 oedolyn a hyd at 4 plentyn)
Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu pum Tocyn Crwydro Dydd Powys am bris pedwar ar y bws neu drwy Ap TrawsCymru. Rhaid defnyddio'r Tocynnau Pum Diwrnod o fewn 90 diwrnod.
Tocynnau Trwodd
Gall cwsmeriaid nad oes angen Tocyn Dydd arnynt, ond sydd angen defnyddio dau fws gwahanol ar gyfer eu taith, brynu Tocyn Trwodd yn Aberhonddu, Llandrindod, Ystradgynlais, Y Trallwng a hybiau cyfnewidfa'r Drenewydd.
Bydd Tocynnau Trwodd wedi'u hamseru i'w defnyddio o fewn 90 munud ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer taith ddychwelyd neu ar yr un gwasanaeth i deithio ymlaen. Bydd yn cael ei nodi fel tocyn cysylltu taith ymlaen penodedig yn unig.
Gellir defnyddio tocynnau trwodd ar draws gwasanaethau TrawsCymru (T2, T4 a T6) a phob Gwasanaeth Bys Lleol arall ym Mhowys.
Gall cwsmeriaid deithio o fewn, neu y tu allan i ffiniau'r dref (h.y. nid oes cyfyngiadau pellter) ond bydd cost y Tocyn Trwodd yn cael ei phennu gan y cyrchfan a/neu'r math o wasanaeth cysylltu (h.y. gwasanaeth TrawsCymru neu wasanaeth Bysiau Lleol Powys)
Dim ond ar y bws y gellir prynu tocynnau trwodd.
Tocynnau wythnosol (7 diwrnod), misol (28 diwrnod), 6 mis (24 wythnos) a thocynnau blynyddol (52 wythnos)
Bydd tocynnau'n caniatáu i gwsmeriaid deithio ar draws rhwydwaith Powys (gan gynnwys gwasanaethau TrawsCymru, a gellir eu prynu ar y bws neu drwy Ap TrawsCymru:
- Wythnosol (7 diwrnod) £24 i oedolyn a £16 i blentyn
- Misol (28 diwrnod) £72 i oedolyn a £48 i blentyn
- Bydd tocynnau 6 mis (24 wythnos) a blynyddol (52 wythnos) ar gael i'w prynu o 2026 ymlaen
Tocynnau TrawsCymru
Bydd gwasanaethau T2, T4 a T6 yn parhau i gael eu brandio fel "TrawsCymru" a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am docynnau a chostau teithio yma: TrawsCymru | Trafnidiaeth Cymru
Dylai cwsmeriaid nodi y bydd yr hen T14 yn cael ei ail-rifo fel y gwasanaeth X44 a bydd y T12 hefyd yn cael ei ail-rifo fel yr X76.
Tocynnau fflecsi
Bydd gwasanaeth ar alw newydd yn dod yn fuan i Raeadr Gwy a'r Drenewydd o'r enw fflecsi.
Mae'r gwasanaeth bws fflecsi yn fenter drafnidiaeth ar-alw sy'n cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn partneriaeth â chynghorau lleol a gweithredwyr bysiau. Mae'n cynnig dewis hyblyg yn lle gwasanaethau bysiau traddodiadol, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw llwybrau sefydlog yn ymarferol o bosibl.
Mae fflecsi wedi'i ddylunio i gymryd lle neu ategu llwybrau bysiau rheolaidd, ond yn hytrach na chael amserlenni ac arosfannau sefydlog, mae bysiau fflecsi yn codi ac yn gollwng teithwyr mewn ardal wasanaeth ddynodedig, yn seiliedig ar archebion a wneir drwy'r ap neu dros y ffôn gyda'n canolfan alwadau ddwyieithog gyfeillgar. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio technoleg i lwybro bysiau'n ddeinamig yn ôl y galw gan deithwyr.
Sut mae fflecsi yn gweithio?
- Archebwch eich taith drwy ap fflecsi neu drwy ffonio'r llinell gymorth: : 03002 340 300
- Mae'r system yn paru teithwyr â llwybrau tebyg ac yn cyfrifo taith hyblyg.
- Os ydych chi'n archebu drwy'r ap, gallwch gadw golwg ar eich bws a chael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Manteision
- Hwylustod: Archebwch pan fydd ei angen arnoch.
- Hygyrchedd: Delfrydol ar gyfer ardaloedd gwledig ac ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol.
- Cynaliadwyedd: Mae'n lleihau allyriadau carbon drwy optimeiddio llwybrau.
- Integreiddio: Mae'n cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau eraill.
Prisiau
- Codir prisiau safonol am docynnau.
- Derbynnir cardiau clyfar digyffwrdd ac, mewn rhai achosion, arian parod.
- Mae tocynnau teithio rhatach yn ddilys
Bydd rhagor o fanylion am wasanaeth Powys ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth Fflecsi yma: bysiau fflecsi | Trafnidiaeth Cymru
Tocynnau Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw
Mae pob llwybr bysiau sy'n dechrau gyda'r llythyren B yn gweithredu fel gwasanaeth Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw (TSA).
Mae'r gwasanaethau hyn yn rhedeg ar hyd llwybr penodol ac ar amseroedd penodol, fel amserlen bysiau draddodiadol, ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw gyda'r darparwr gwasanaeth. Os oes neb wedi archebu taith ymlaen llaw, ni fydd y gwasanaeth yn rhedeg.
Gellir talu am docynnau ar y bws.
I archebu taith ymlaen llaw, ffoniwch weithredwr y gwasanaeth yn uniongyrchol o leiaf ddwy awr cyn yr amser yr ydych am deithio:
- B36 Dinas Mawddwy i Fachynlleth drwy Gemaes Lloyds Coaches: 01654 702100
- B49 Talgarth ac Aberhonddu (drwy Langors), Talgarth a'r Gelli Gandryll drwy Dregoyd a Llanigon Williams Coaches: 01874 622223
- B57 Cwm Elan i Landrindod drwy Raeadr, Y Groes S P Cars: 01597 810666
- B58 Llanidloes i Lanfair-ym-Muallt drwy Raeadr, Pant-y-dŵr, Pontnewydd a Saint Harmon S P Cars: 01597 810666
- B82 Llanfyllin i Lyn Efyrnwy Oswestry Community Action: 01691 671571
- B83 Llanidloes a'r Drenewydd drwy Drefeglwys ac Aberhafesb Celtic travel: 01686 412231
Tocynnau aml-daith
Nid yw'r tocynnau hyn ar gael mwyach. Rhaid defnyddio unrhyw docynnau sengl aml-daith a brynwyd cyn 31 Awst 2025 cyn 31 Rhagfyr 2025.
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru
Mae modd i'r rhai sydd â cherdyn teithio rhatach Cymru deithio am ddim
Gall y rhai sydd â cherdyn teithio rhatach o rannau eraill o'r DU brynu tocynnau Crwydro Dydd Powys ar gyfradd tocyn plentyn
Gellir dod o hyd i ddolen fanylion am docynnau rhatach yma: Gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gerdyn teithio
Tocynnau eraill
Ni ellir defnyddio tocynnau Stagecoach Network Rider (De Cymru) ar wasanaethau Powys.
Mae tocyn OneBws (h.y. yng Ngogledd Cymru) yn ddilys rhwng Glandyfi a Machynlleth ar wasanaeth T2 yn unig. Gellir defnyddio Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru ar Wasanaethau Powys.
Ni ellir defnyddio unrhyw docynnau penodol i weithredwyr eraill, megis y rhai a brynwyd ar Minsterley Motors (738/740), X6 (First Cymru), 121 (Trafnidiaeth De Cymru), 461/462 (Sargeants)ar wasanaethau Powys.
Ni ellir defnyddio tocynnau parth Tocynnau Dydd ar wasanaethau trên, First Cymru (gwasanaeth X6), Trafnidiaeth De Cymru (gwasanaeth 121), Sargeants (gwasanaethau 461/462) na Minsterley Motors (gwasanaethau 738 / 740).
Gellir defnyddio'r Tocynnau Trwodd o'r X76 (a weithredir gan Tanat Valley) ar y gwasanaethau 2/2A (a weithredir gan Arriva), ac i'r gwrthwyneb ar gyfer cwsmeriaid sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad rhwng Wrecsam a'r Drenewydd.
Dulliau talu
Gall cwsmeriaid dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ar Apiau TrawsCymru a Fflecsi.
Bydd gyrwyr ar wasanaethau bysiau lleol Powys yn derbyn taliad digyswllt neu arian parod.