Cwestiynau Cyffredin Adolygiad Ôl-16
Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu ar yr adolygiad o ddarpariaeth ôl-16, rydym wedi llunio cyfres o gwestiynau cyffredin i fynd i'r afael â chymaint o'r ymholiadau mwyaf cyffredin â phosibl.
Pam ydych chi'n adolygu darpariaeth ôl-16?
Er gwaethaf newidiadau i ddarpariaeth Ôl-16 yn y blynyddoedd diwethaf, megis cyflwyno model rheoli strategol Chweched Powys, mae heriau'n parhau o ran y cynnig Ôl-16 ledled Powys. Crynhowyd y rhain yn adroddiad Estyn yn dilyn eu harolygiad diweddar o Wasanaethau Addysg Powys, a nododd:
'Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r awdurdod lleol wedi cyflwyno 'model Chweched Powys' i ddarparu dysgu chweched dosbarth ar ddeuddeg safle ysgol. Fodd bynnag, nid yw'r trefniadau hyn wedi arwain at well canlyniadau dysgwyr, nid ydynt yn gynaliadwy yn ariannol ac nid ydynt yn cefnogi mynediad cyfartal i ddarpariaeth ôl-16 i bob dysgwr. O ganlyniad, mae'r cynnydd wrth fynd i'r afael â thrawsnewid ôl-16 wedi bod yn rhy araf.'
Mae'r heriau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y ddogfen 'Adolygiad Strategol o'r Ddarpariaeth Ôl-16 ym Mhowys', a ystyriwyd gan y Cabinet ym mis Mai 2025. Mae hwn ar gael drwy'r ddolen ganlynol: Cyngor Sir Powys County Council - Agenda ar gyfer Cabinet ar Dydd Mawrth, 13eg Mai, 2025, 11.00 am.
Nod yr adolygiad presennol yw adeiladu system ôl-16 sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr, yn gynaliadwy, ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Pam ydych chi'n bwriadu cau pob chweched dosbarth?
Nid ydym ar hyn o bryd yn 'bwriadu cau pob chweched dosbarth'.
Ar hyn o bryd rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer darpariaeth ôl-16 yn y sir yn y dyfodol. Un o'r opsiynau sydd wedi'u nodi yw i ad-drefnu'r ddarpariaeth i greu dau ganolfan ôl-16 fwy, un yng ngogledd y sir ac un yn ne'r sir, a allai arwain at gau'r dosbarthiadau chwech yn y pen draw. Byddai hyn yn canolbwyntio adnoddau, yn gwella ehangder y cwricwlwm, ac yn galluogi gwell defnydd o ddulliau dysgu digidol ac wyneb yn wyneb.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud i symud ymlaen gyda'r opsiwn hwn, ac mae llawer o opsiynau eraill hefyd yn cael eu hystyried.
Pam ydych chi'n bwriadu agor canolfannau chweched dosbarth newydd yn y Drenewydd ac Aberhonddu? Byddai'r lleoliadau hyn yn rhy bell i rai dysgwyr.
Mae'r Drenewydd ac Aberhonddu wedi'u nodi fel lleoliadau posibl ar gyfer canolfannau chweched dosbarth newydd gan mai dyma'r prif drefi yng Ngogledd a De Powys, sy'n elwa o gysylltiadau trafnidiaeth cryf. Yn ogystal, nhw yw'r ddau leoliad lle mae Coleg NPTC yn gweithredu ym Mhowys, a fyddai'n darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy'n mynychu unrhyw ganolfannau sydd wedi'u sefydlu yn y trefi hyn gael mynediad at ddarpariaeth alwedigaethol yn y coleg.
Fodd bynnag, cydnabyddir y byddai'r lleoliadau hyn yn gofyn am deithio sylweddol i rai dysgwyr Powys, ac y gallai rhai fod yn agosach at ddarpariaeth ôl-16 arall mewn siroedd cyfagos, fel Swydd Amwythig a Chastell-nedd Port Talbot.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud i fwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau, ac fel rhan o'r adolygiad presennol, mae cyfleoedd wedi'u darparu ar gyfer awgrymu opsiynau eraill, a all gynnwys lleoliadau eraill. Bydd unrhyw opsiynau eraill a awgrymir yn cael eu hystyried wrth benderfynu sut i symud ymlaen, a bydd yr effaith ar fynediad at ddarpariaeth a theithio gan ddysgwyr yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu sut i symud ymlaen.
Pam nad ydych chi'n cau chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg?
Mae gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor.
Ar hyn o bryd, mae nifer y dysgwyr sy'n cael mynediad at ddarpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg ym Mhowys yn isel iawn, ac mae'r cynnig pwnc yn isel iawn. Nid yw hyn yn bodloni nodau'r Cyngor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg fel yr amlinellir yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn y broses o sefydlu nifer o ddarparwyr uwchradd cyfrwng Cymraeg dynodedig i gryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gael yn y cyfnod uwchradd. Y bwriad presennol yw parhau i ddatblygu darpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg o fewn yr ysgolion hyn, er mwyn sicrhau bod staff cyfrwng Cymraeg ar gael i gyflwyno'r ddarpariaeth, a hefyd sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa o ethos cyfrwng Cymraeg llawn. Fodd bynnag, cydnabyddir y byddai niferoedd disgyblion cyfrwng Cymraeg yn isel i ddechrau, a byddai angen cysylltiadau agos â darparwyr eraill i sicrhau bod modd darparu cwricwlwm addas.
Beth fydd yn digwydd i staff?
Gall unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth chweched dosbarth bresennol mewn ysgolion arwain at newidiadau mewn gofynion staffio yn y dyfodol. Fodd bynnag, gan nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto i fwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau, nid yw'n bosibl darparu unrhyw wybodaeth bendant am yr effaith ar staff ar hyn o bryd.
Cydnabyddir bod unrhyw broses newid yn arwain at ansicrwydd i'r staff yr effeithir arnynt, a bydd cyfleoedd yn parhau i gael eu darparu i staff ymgysylltu â'r adolygiad presennol wrth i'r gwaith symud ymlaen. Os bydd y Cyngor yn penderfynu symud ymlaen gydag unrhyw newidiadau, bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gydag ysgolion ac undebau i reoli pontio yn deg, gan gefnogi datblygiad ac adleoli staff lle bo hynny'n bosibl.
Pryd fydd y newidiadau yn digwydd?
Pe bai'r Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau system gyfan a fyddai'n effeithio ar ddarpariaeth ôl-16 ledled Powys, mae'n debygol y byddai'n cymryd nifer o flynyddoedd i weithredu'r rhain - o leiaf 5 mlynedd. Fodd bynnag, gall gymryd mwy o amser na hyn, yn dibynnu ar natur y newidiadau sy'n cael eu cynnig.
Sut mae Addysg Ôl-16 ym Mhowys yn cael ei ariannu?
Daw'r cyllid o Grant Ôl-16 a ddarperir gan Medr, corff hyd braich o Lywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am y sector trydyddol. Mae'r grant hwn yn cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Powys yn seiliedig ar fformiwla, sy'n cael ei gyrru'n bennaf gan nifer cyfartalog y dysgwyr sy'n mynychu chweched dosbarth ym Mhowys, gydag ychwanegiadau ar gyfer ardaloedd tenau eu poblogaeth, amddifadedd ac addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Cyngor Powys yn dyrannu'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn yn uniongyrchol i ysgolion yn seiliedig ar nifer y dysgwyr a'r cyrsiau sy'n cael eu darparu. Mae'r cyllid y mae Powys yn ei dderbyn o Medr wedi lleihau mewn blynyddoedd diweddar oherwydd gostyngiad mewn niferoedd disgyblion. Rhagwelir y bydd hyn yn parhau heb unrhyw newidiadau i'r model.
Mae colegau yn derbyn cyllid yn uniongyrchol gan Medr, gan ddefnyddio'r un fformwla.
Sut bydd y newidiadau yn gwella pethau i ddysgwyr?
Beth bynnag yw canlyniad yr adolygiad presennol, y nod yw sicrhau darpariaeth ôl-16 ym Mhowys sy'n:
- Cynnig mwy o bynciau a mwy o ddewis i ddiwallu anghenion dysgwyr orau
- Darparu addysgu o ansawdd uwch mewn grwpiau pynciau arbenigol
- Cynnwys llai o deithio yn y dydd rhwng ysgolion
- Darparu mynediad mwy cyfartal, yn cynnwys cyfrwng Cymraeg a darpariaeth i ddysgwyr ag ADY
- Darparu profiad cryfach i ddysgwyr gyda chyfoethogi, cymorth lles, a chyfarwyddyd gyrfaoedd
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Cynhaliwyd ymgysylltiad cychwynnol yn ystod Tymor yr Haf 2025. Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd yn Nhymor yr Hydref, a fydd yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr. Yna bydd y Cyngor yn ystyried canfyddiadau'r gwaith ymgysylltu yn Nhymor y Gwanwyn 2026, a bydd yn pennu ffordd ymlaen ac amserlen.
Yn dibynnu ar y newidiadau sy'n cael eu cynnig, mae'n bosibl y byddai angen cynnal proses ffurfiol, a fyddai'n cynnwys ymgynghoriad â'r holl randdeiliaid yr effeithir arnynt. Byddai cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i ddarparu eglurder ar weithgarwch disgwyliedig yn y dyfodol.