£4m ar gael ar gyfer prosiectau adfywio canol trefi ledled y Canolbarth

11 Medi 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu'r wobr i Gyngor Sir Powys, yn cydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, fel rhan o'i raglen Trawsnewid Trefi.
Mae cyllid ar gael ar gyfer hyd at 70% o gostau'r prosiect, hyd at uchafswm o £300,000 y cais, ar gyfer cynlluniau sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau a amlinellir yng nghynllun creu lleoedd neu fuddsoddiad trefi.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Grantiau Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2025-2027:
- Powys: Trawsnewid Trefi
- Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-creu-lleoedd-trawsnewid-trefi/
Mae grantiau creu lleoedd yn y ddwy sir yn cael eu dyfarnu gan fwrdd rhanbarthol Canolbarth Cymru, ond rhaid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i'r cyngor lle mae'r prosiect wedi'i leoli. Gall y rhain gael eu darparu gan y cynghorau sir eu hunain, neu gan drydydd partïon megis cynghorau tref, partneriaethau, elusennau, sefydliadau gwirfoddol a busnesau preifat.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu swyddi, hybu gweithgarwch economaidd ac anadlu bywyd newydd i strydoedd a chanol trefi ledled y Canolbarth," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, a'r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon, mewn datganiad ar y cyd. "Mae'r mathau o brosiectau rydym yn debygol o'u cefnogi yn cynnwys datblygu eiddo nad yw'n cael ei ddefnyddio'n llawn, eiddo gwag neu eiddo sydd angen ei adnewyddu i greu busnesau, tai, cyfleusterau hamdden, eiddo masnachol neu gyfleusterau cymunedol; gwella ymddangosiad eiddo a/neu eu hail-lunio i'w gwneud yn fwy hyfyw; neu wella eiddo sy'n bodoli eisoes drwy gyflwyno gwasanaethau a chysylltedd arloesol, fel band eang cyflym, a fydd yn denu busnesau."
Ers ei lansio yn 2020, mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi wedi dyfarnu dros £314 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi adfywio ledled Cymru.
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: "Drwy fuddsoddi yn ein trefi a'n canol dinasoedd, rydym nid yn unig yn gwella'r amgylchedd ffisegol ond hefyd yn meithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd i breswylwyr.
"Mae dod ag eiddo gwag yn ôl yn weithredol ac anadlu bywyd newydd i ganol ein trefi a'n dinasoedd yn bileri allweddol i'n strategaeth adfywio yma yng Nghymru.
"Mae parhau â'r rhaglen grant, gyda mwy o gyllid a lwfansau grant, yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau rydym eisoes wedi'u cyflawni."
LLUN: Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant, yn ymweld â'r Automobile Palace yn Llandrindod yn gynharach eleni, a adnewyddwyd gyda chymorth cyllid Trawsnewid Trefi. Gyda hi mae'r Cynghorydd James Gibson-Watt (chwith) a'r Cynghorwyr Jake Berriman a Josie Ewing.