Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Trawsnewid Trefi

Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-25

Bydd cyllid creu lleoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarth canolbarth Cymru yn gweld buddsoddiad o £5.08millon i helpu i adfywio canol trefi Powys a Cheredigion dros y tair blynedd nesaf.  

PWYSIG: Mae'r rhaglen bresennol yn cau ar 31ain Rhagfyr 2024

Mae Datganiad Sefyllfa Canol Trefi (Mai 2023) Llywodraeth Cymru yn nodi'r polisi a'r ystod o gefnogaeth ar gyfer adfywio canol ein trefi.

Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, a Llywodraeth Cymru, a'r nod yw ailddychmygu ac ail-greu adeiladau a mannau agored i greu canol trefi cryf sy'n ffynnu.

Mae'r Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus i alluogi rhaglen gefnogaeth eang a hyblyg ar gyfer ystod eang o brosiectau a all helpu i adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru. Gall y math o brosiectau gynnwys datblygiadau seilwaith gwyrdd, gwelliannau i dir y cyhoedd, gosod seilwaith digidol yng nghanol trefi, gwelliannau mewnol ac allanol i eiddo masnachol a phreswyl a llawer mwy. 

Bydd angen i brosiectau arfaethedig bodloni meini prawf cymhwysedd a fydd yn cynnwys dangos cysylltiadau clir â Chynllun Bro Tref neu Strategaeth Ganol Tref gyfredol. Hefyd, bydd angen i brosiectau arfaethedig bodloni meini prawf Fframwaith Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi.

Gall ymgeiswyr drafod prosiectau posibl gyda'u swyddog prosiect lleol a fydd yn gallu cynghori a allai'r prosiect fod yn gymwys a helpu gyda'r broses mynegi diddordeb.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Rhaglen Grant Trawsnewid Trefi cysylltwch â:

Ebost: Regeneration@powys.gov.uk 

Ffôn: 01597 827656

Arian cyfatebol drwy'r Cynllun Benthyciadau Canol Trefi.

Mae Cyngor Sir Powys yn cyflawni Cynllun Benthyciadau Canol Tref Llywodraeth Cymru ar draws y sir. Gall y cynllun benthyciadau helpu ariannu datblygiadau eiddo preswyl a masnachol yng nghanol trefi Powys. Gellir defnyddio benthyciad canol tref hefyd i helpu i ychwanegu at y pecyn cyllido ar gyfer cais Grant Trawsnewid Trefi. Mae mwy o fanylion am y cynllun benthyciadau gan Dîm Tai Sector Preifat Cyngor Sir Powys.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch Benthyciadau Canol Trefi, cysylltwch â:

Ebost: neu privatesectorhousing@powys.gov.uk 

Ffôn: 01597 827464

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu