Powys yn lansio cam nesaf ymgysylltu ynghylch addysg ôl-16

17 Medi 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu model hirdymor sy'n diwallu anghenion dysgwyr ac sy'n gynaliadwy yn ariannol.
Mae addysg ôl-16 ym Mhowys yn wynebu sawl her, gan gynnwys gostyngiad cyson yn niferoedd chweched dosbarth. Mae goblygiadau ariannol i'r duedd hon, gan fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i seilio'n bennaf ar niferoedd dysgwyr, sy'n ei gwneud hi'n anos cynnal darpariaeth effeithiol, yn enwedig mewn ysgolion llai.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd y cyngor sesiynau ymgysylltu â staff a llywodraethwyr ysgolion i rannu gwybodaeth am y pwysau sy'n wynebu'r sector a chasglu adborth ar ddarpariaeth yn y dyfodol.
Er mwyn arwain ail gam yr ymgysylltu, mae'r cyngor wedi penodi Opinion Research Services (ORS). Bydd y cam hwn yn cynnwys:
- Holiadur arlein ar gyfer rhieni/gofalwyr dysgwyr oed uwchradd a disgyblion sy'n mynychu addysg uwchradd ac ôl-16 ym Mhowys
- Grwpiau ffocws gyda disgyblion a staff ym mhob un o'r 13 safle ysgol uwchradd a phob oed
- Ymgysylltu â dysgwyr sydd wedi dewis darpariaeth coleg neu y tu allan i'r sir.
Bydd yr holiadur yn cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng ysgolion uwchradd ar ran y cyngor.
Bydd y cyfnod hwn yn rhedeg drwy gydol tymor yr hydref, ochr yn ochr â chysylltiad parhaus â phenaethiaid, llywodraethwyr, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, a darparwyr addysg eraill ledled Cymru a thu hwnt. Mae'r cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i gryfhau trefniadau presennol a sicrhau dull cydweithredol o ddatblygu darpariaeth y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys Fwy Ffyniannus: "Mae deall yr hyn sydd bwysicaf i ddysgwyr a'u teuluoedd yn rhan ganolog o'r adolygiad hwn. Bydd eu mewnwelediad yn ein helpu i adeiladu system addysg ôl-16 sy'n adlewyrchu anghenion gwirioneddol, yn cefnogi dewisiadau gwybodus, ac yn darparu cynaliadwyedd hirdymor.
"Rwy'n annog dysgwyr, rhieni a phartneriaid addysg i gymryd rhan a rhannu eu barn fel y gallwn adeiladu system sy'n gynhwysol, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol."
Bydd y canfyddiadau'n llywio'r gwerthusiad o opsiynau hirdymor ar gyfer addysg ôl-16. Er y cyfeiriwyd at dri opsiwn yn adroddiad y Cabinet, bydd y cyngor hefyd yn ystyried cynigion amgen gan randdeiliaid.
Bydd cyfnod ymgysylltu pellach yn dilyn yn nhymor yr haf, gan ganiatáu i bawb wneud sylwadau ar yr opsiynau cyn i'r Cabinet gytuno ar y ffordd orau ymlaen.
Ni ddisgwylir i unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth addysg ôl-16 gael eu gweithredu cyn 2030.
Mae tudalen we bwrpasol, Adolygiad Ôl-16, wedi'i chreu i ddarparu diweddariadau, Cwestiynau Cyffredin a sleidiau cyflwyno o sesiynau ymgysylltu cynharach.
Llinell Amser Dangosol
- Ymgysylltu, Cam 2 (Dysgwyr, Rhieni/Gofalwyr a Phartneriaid) - Medi-Rhagfyr 2025
- Canlyniad yr ymgysylltu ac arfarniad o'r opsiynau wedi'u diweddaru - Tymor y Gwanwyn 2026
- Ymgysylltu, Cam 3 (Sylwadau'r cyhoedd ar yr opsiynau yn y rhestr fer) - Tymor yr Haf 2026
- Penderfyniad y Cabinet ar y ffordd orau ymlaen - Tymor yr Hydref 2026
- Gweithredu unrhyw newidiadau - Dim cynharach na 2030