Ffocws ar dai fforddiadwy wrth i arweinwyr rhanbarthol gyfarfod yn Ystradgynlais

18 Medi 2025

Cynhaliwyd Cabinet Tai Rhanbarthol y Canolbarth, dan gadeiryddiaeth Jane Bryant, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn Ystradgynlais gan Gyngor Sir Powys gan ddod â chynghorwyr a swyddogion o Bowys a Cheredigion ynghyd.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i archwilio dulliau cydweithredol o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, symleiddio'r gwaith o ddarparu tai cyngor, a mynd i'r afael â digartrefedd.
Fel rhan o'r diwrnod, ymwelodd y mynychwyr ag Ael y Bryn / Pen y Bryn i glywed yn uniongyrchol am brosiect i adfywio'r ardal drwy adeiladu cartrefi cyngor newydd.
Fel un o gamau cyntaf Prosiect Adfywio Ystradgynlais, sy'n rhan o strategaeth ehangach i roi bywyd newydd i'r ystad a chryfhau'r gymuned leol, bydd y cyngor yn adeiladu 16 o fflatiau cyngor un ystafell wely ansawdd uchel ac ynni-effeithlon, gan ddisodli fflatiau blaenorol hen ffasiwn, anodd eu gosod nad ydynt bellach yn bodloni safonau modern.
Ymwelodd y rhai a fynychodd hefyd â depo a swyddfa newydd y cyngor ger Ffordd Trawsffordd, a fydd yn cefnogi gwasanaethau tai yn ne'r sir.
Un o ganlyniadau allweddol y cyfarfod oedd ymrwymiad i edrych ar sut y gellir lleihau cost adeiladu tai cymdeithasol. Bydd y prosiect hwn yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru gyda swyddogion tai o Bowys yn ymuno â grŵp y prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Roeddem yn falch o groesawu'r Gweinidog Jane Bryant i Ystradgynlais a rhannu'r cynlluniau cyffrous ar gyfer adfywio Ael-Y-Bryn a Phen-Y-Bryn. Bydd y datblygiad hwn yn darparu cartrefi cyngor ynni-effeithlon o ansawdd uchel ac yn rhoi bywyd newydd i'r gymuned - mae'n enghraifft glir o'n hymrwymiad i adeiladu Powys gryfach, decach, wyrddach.
"Mae'r Cabinet Tai Rhanbarthol yn fforwm hanfodol ar gyfer ysgogi newid, ac rwy'n falch bod ein swyddogion tai am fod yn rhan o grŵp prosiect Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellir lleihau cost adeiladu tai cymdeithasol. Drwy gydweithio, gallwn ddarparu mwy o gartrefi i'r bobl sydd eu hangen fwyaf a sicrhau bod ein cymunedau'n ffynnu."