Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Galw Heibio Pontsenni

Image of a primary school classroom

29 Medi 2025

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol gynradd newydd ym Mhontsenni i'w gweld mewn digwyddiad galw heibio yn yr ysgol yr wythnos nesaf.

Bydd Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd i gymryd lle yr un presennol ar gyfer 120 o ddisgyblion ym Mhontsenni fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg.

Ffrwyth y prosiect hwn fydd adeiladu Ysgol Gynradd newydd i gymryd lle yr un presennol ar gyfer 120 o ddisgyblion gan gynnwys defnydd cymunedol ynghyd â dymchwel yr adeilad presennol a gwaith allanol. Bydd yr ysgol wedi'i llunio i gyflawni'r cynllun Carbon Sero Net, cyrraedd targedau carbon a ymgorfforir gan Lywodraeth Cymru a chyflawni BREEAM Rhagorol.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys:

  • Blynyddoedd Cynnar
  • Ystafell ddosbarth derbyn
  • Ystafelloedd dosbarth Cyfnod Allweddol 1 a 2
  • Neuadd yr Ysgol
  • Ystafell gymunedol
  • Llyfrgell
  • Ardal gemau amlddefnydd newydd
  • Ardaloedd chwarae meddal a chaled

Fel rhan o'r prosiect ysgol newydd, mae'r contractwr yn cynnal noson agored (8 Hydref 5-7pm) yn yr ysgol er mwyn i aelodau'r cyhoedd weld y cynigion gan eu bod wedi cael eu cyflwyno i'w hymgynghoriad cais cyn-gynllunio. (YCC)

Mae'r YCC cynllunio yn cael ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar 6 Hydref, ac mae'r digwyddiad hwn ar gyfer dangos i rieni ac aelodau'r cyhoedd yr hyn sy'n cael ei gyflwyno.

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i weld a thrafod y cynlluniau ar gyfer adeilad newydd yr ysgol. Bydd y digwyddiad yn agored i'r gymuned ysgol gyfan yn ogystal â'r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Bydd yr adeilad newydd ar gyfer Pontsenni yn darparu cyfleusterau modern i'n disgyblion a'n staff addysgu ac yn eu helpu i ddarparu profiad addysg pleserus a boddhaus i bawb.

"Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn rhoi cyfle gwych i bawb yng nghymuned yr ysgol ac aelodau o'r cyhoedd weld y cynlluniau cyffrous hyn, a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr ym Mhowys."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu