Toglo gwelededd dewislen symudol

Arbed amser, arbed arian a phweru Cymru i Rif 1

Image of the Be Mighty. Recycle. campaign - September 2025

30 Medi 2025

Image of the Be Mighty. Recycle. campaign - September 2025
Mae'r hydref yma, mae'r gwyliau wedi bod, ac mae bywyd yn ôl i'w drefn arferol unwaith eto. P'un a wyt ti'n cydbwyso gwaith, astudiaethau, neu fywyd teuluol, mae'r hydref yn gyfnod delfrydol i ailgydio mewn arferion - yn enwedig yn y gegin.

Dyna pam mae Cyngor Sir Powys yn gweithio mewn partneriaeth â Cymru yn Ailgylchu i ddangos sut gall coginio'n ddoeth dy helpu i arbed amser ac arian, lleihau gwastraff, a'i gwneud hi'n haws nag erioed i fwynhau dy 5 y dydd ... a hynny oll wrth helpu Cymru ar ei siwrne i fod yn genedl ailgylchu orau'r byd.

Rydym eisoes yn falch o fod yn ail yn y gynghrair ailgylchu fyd-eang - dim ond ychydig y tu ôl i Awstria - ond, gyda gwastraff bwyd y gallwn ni gael yr effaith fwyaf. Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae'r gwastraff bwyd hwnnw'n costio tuag £84 y mis i'r cartref 4 person cyfartalog. Dyna arian (a phrydau bwyd) yn mynd yn syth i'r bin!

"Er y bydd y rhan fwyaf o gartrefi Powys yn ailgylchu eitemau cyffredin megis papur a cherdyn, gwydr, poteli plastig a blychau, nid yw llawer yn ailgylchu eu gwastraff bwyd o hyd." Eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "A dweud y gwir, bwyd yw rhyw chwarter o gynnwys y biniau sbwriel cyffredin o hyd, a gellir ailgylchu hyn oll yn y blychau gwastraff bwyd yn rhwydd.

"Mae trigolion Powys yn gwneud gwaith gwych wrth ailgylchu, a dyna'r rheswm bod gennym raddfa ailgylchu benigamp o dros 68%, a gall pawb chwarae ei ran yn rhwydd gyda'r gwastraff bwyd a helpu trechu effeithiau newid hinsawdd yn uniongyrchol,"

Drwy fod yn ddoethach gyda dy brydau bwyd ac ailgylchu'r hyn na alli ei fwyta, byddi'n lleihau gwastraff, yn arbed arian, ac yn bwyta mwy o dy 5 y dydd yn hawdd - a hynny i gyd wrth helpu Cymru gyrraedd y brig. Ac rydyn ni am ddangos iti pa mor syml y gall hyn fod.

Coginio unwaith, gweini sawl gwaith: Paratoi. Addasu. Ailgylchu!

Gyda'r nosweithiau'n tywyllu ac amser yn aml yn brin, yr hydref yw'r tymor ar gyfer bwyd cysur hawdd a diffwdan. Mae'r syniad yn syml: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.

Coginia bryd sylfaenol syml gyda chynhwysion bob dydd, yna ychwanegu ychydig o bethau ychwanegol i gadw'r dewisiadau'n ffres ac yn flasus. Gellir ei weini mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos fel na fyddi'n treulio gymaint o amser yn y gegin, sy'n rhoi mwy o amser iti fwynhau dy brydau bwyd.

Cofia - dylai'r darnau na ellir eu bwyta, fel croen, coesynnau, esgyrn neu blisg wyau, fynd yn syth i'r cadi bwyd. Mae gwastraff bwyd yng Nghymru yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!

Dyma 3 rysáit hawdd a syml iti gael dechrau arni:

Stiw swynol - swmpus, syml a hyblyg

Mae'r stiw 'chydig o bob dim' hwn yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau'r hydref pan fyddi di eisiau rhywbeth cynnes heb ormod o ymdrech. Dechreua gyda sylfaen syml o winwnsyn, garlleg, tomatos tun, stoc a dy ddewis o brotein - cig dros ben, ffa neu gorbys. Yna ychwanega unrhyw lysiau sydd wrth law a gadael iddo ffrwtian nes bydd yn troi'n bryd cyfoethog a swmpus.

Y peth gwych am y pryd hwn yw sut y gall newid wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen: ei fwynhau'n gyntaf gyda bara crensiog, yna ei lwyo dros datws stwnsh y noson ganlynol, ac yn ddiweddarach yn yr wythnos, rhoi crwst neu datws stwnsh ar ei ben i wneud pastai. A chofia, rho unrhyw groen winwns, topiau moron, coesynnau pupurau neu esgyrn yn y cadi bwyd iddo gael ei droi'n ynni gwyrdd.

Cyri Cymysg - blas mawr, ymdrech fach

Dechreua trwy ffrio winwnsyn, garlleg a sinsir, yna ychwanegu sbeisys neu bast cyri drwyddynt. Ychwanega dy ddewis o brotein, boed hynny'n gyw iâr, corbys neu tofu, cyn arllwys tomatos tun neu laeth cnau coco i mewn. Ychwanega beth bynnag sydd yn ei dymor - mae pwmpen, pupurau, madarch, sbigoglys neu ffa i gyd yn gweithio'n wych.

Ar ôl ei goginio, galli ei fwynhau gyda reis, dyna glasur o swper; ei lapio mewn bara fflat i wneud cinio cyflym, neu ei lwyo dros daten bob pan fydd angen rhywbeth cyflym. Ailgylcha'r hyn na ellir ei fwyta i greu pŵer a rhoi hwb i Gymru i Rif 1.

Crymbl Ffrwythau Iach - syml, cynnes ac amlbwrpas

O ran cysur yr hydref, does dim curo ar grymbl ffrwythau. Mae'n syml i'w wneud ac yn anhygoel o amlbwrpas hefyd. Cymysga geirch, blawd ac ychydig o fêl neu surop gyda menyn i greu topin briwsion euraidd, yna ei bobi ar ben ffrwythau tymhorol meddal fel afalau, gellyg, eirin neu fwyar duon, gydag ysgeintiad o sinamon neu nytmeg am gynhesrwydd ychwanegol.

Ar ôl ei bobi, galli ei fwynhau'n boeth o'r popty gyda chwstard neu hufen iâ, ei weini'n oer gydag iogwrt am frecwast iachus, neu hyd yn oed ei ddefnyddio fel topin crensiog ar dost wedi'i daenu gyda menyn cnau. O ran y creiddiau afalau, coesynnau'r gellyg a cherrig yr eirin - i'r cadi bwyd â nhw bob un, yn barod i gael eu hailgylchu'n ynni glân, gwyrdd.

Rho gynnig ar yr Her Bwyd Doeth ac ennill gwobr Gymreig flasus

Dos draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan yn yr Her Bwyd Doeth, darganfod mwy o ryseitiau clyfar a fydd yn arbed amser ac arian iti, a chael cyfle i ennill gwobr Gymreig flasus.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu