Prosiect yn helpu i ddarparu mwy o oriau o ofal cartref i fwy o bobl

30 Medi 2025

Mae staff sy'n gweithio i asiantaethau preifat neu'r cyngor sir, bellach yn darparu 38% yn fwy o oriau o ofal cartref i 29% yn fwy o bobl nag oedden nhw ddwy flynedd yn ôl.
Mae'r prosiect Moderneiddio Gofal Cartref hefyd wedi lleihau'r angen i staff y cyngor camu i mewn a darparu 'gwasanaeth pontio', nes y gall asiantaethau dderbyn y contractau, ac mae wedi helpu i leihau nifer y bobl sy'n aros i dderbyn pecyn gofal cymdeithasol o 57%.
Ym mis Awst eleni darparwyd 9,368 o oriau gofal cartref ym Mhowys, o'i gymharu â 6,794 ym mis Medi 2023. Ym mis Awst eleni darparwyd y gwasanaeth i 609 o bobl, o'i gymharu â 471 ym mis Medi 2023.
Ym mis Awst eleni, roedd 47 o bobl yn aros am becyn gofal cymdeithasol ym Mhowys, o'i gymharu â 109 ym mis Medi 2023.
Pan nad yw staff y cyngor yn darparu 'gwasanaeth pontio' maent yn gallu cyflawni eu prif rôl o ddarparu cymorth ar gyfer annibyniaeth drwy raglen alluogi.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Ofalgar, "Hoffwn ganmol a rhoi'r parch mwyaf i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect trawsnewid hwn." "Bu'n ddwy flynedd o greadigrwydd, arloesedd ac ymroddiad, a oedd yn aml yn heriol i'w gyflawni.
"Mae wedi galluogi mwy o bobl i fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am hirach; mae mwy o bobl yn dychwelyd adref o'r ysbyty yn gynt; mae mwy o bobl yn derbyn cymorth galluogi'n gynt; a mwy o bobl yn cael mwy o reolaeth a dewis ynghylch pwy sy'n darparu eu gofal, pryd a sut. Mae hyn i gyd yn golygu lles, iechyd ac ansawdd bywyd gwell i bobl - pwrpas sylfaenol gofal cymdeithasol i oedolion."
Mae'r prosiect moderneiddio wedi arwain at y canlynol:
- Datblygu system electronig i hysbysebu pam fydd contractwyr gofal cartref ar gael. Mae'r system yn fyw ac ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
- Gostyngiad yn nifer y cyfraddau contract gwahanol a symleiddio systemau i ganiatáu mwy o reolaeth ariannol.
- Diweddaru Addewid Powys, i gryfhau telerau cyflogaeth gweithwyr gofal cartref, gan wella eu cyfleoedd cymorth lles a'u cyfleoedd hyfforddiant.
- Egluro safonau hyfforddiant a gofynion y Gymraeg ar gyfer contractwyr gofal cartref.
- Ailgynllunio'r system rheoli contractau, gan gynnwys dull haenog a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol craidd.
Gwnaed gwelliannau hefyd i'r ddarpariaeth taliadau uniongyrchol: arian a roddir i unigolion gan y cyngor, sy'n caniatáu iddynt drefnu i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Ail-gomisiynu'r gwasanaethau cyfrifon a reolir a chyflogres, a ddyfarnwyd i gyflenwr newydd. Mae meddalwedd y cyflenwr yn caniatáu mynediad amser real i falansau a thrafodion cyfrifon unigol.
- Symud y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor oddi wrth gyflenwr i fod yn wasanaeth mewnol.
- Datblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, i'w helpu i ddeall pryd y gellir defnyddio taliadau uniongyrchol a pha fath o daliad uniongyrchol sydd fwyaf priodol ar draws ystod o sefyllfaoedd.
- Datblygu system deallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys gwasanaeth sgwrsio ar-lein byw, i gynnig cymorth ar alw i weithwyr cymdeithasol, gan weithio gyda darpar derbynwyr taliadau uniongyrchol a chyfredol.
- Adolygiad o Bolisi Taliadau Uniongyrchol y cyngor, a oedd yn cynnwys creu llwybrau symlach ar gyfer y gwahanol fathau o daliadau uniongyrchol.