Gall ysgolion cynradd ennill talebau ar gyfer ailgylchu batris

1 Hydref 2025

Mae Cyngor Sir Powys unwaith eto'n cynnal cystadleuaeth ailgylchu batris am ddim ac yn annog ysgolion cynradd yn y sir i gofrestru i gael cyfle i ennill cyfran o dalebau Amazon gwerth hyd at £600.
Bydd ysgolion cynradd sy'n cymryd rhan yn cael bocs batris am ddim a gallant ddechrau casglu batris a ddefnyddiwyd yn y cartref cyn gynted ag y byddant yn cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd gan ysgolion tan ddiwedd y flwyddyn ysgol (Gorffennaf 2026) i gasglu cymaint o fatris â phosibl. Gellir ychwanegu'r rhan fwyaf o fatris bob dydd (o dan 4kg) at y bocs casglu. Gellir dod o hyd i'r rhain mewn offer trydanol ac electronig sy'n cael eu pweru gan fatris ailwefradwy neu untro fel radios, rheolyddion gemau a theganau, rheolyddion o bell, dyfeisiau cymorth clyw, ac ati.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach: "Nid yn unig y mae'r gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i ysgolion ennill rhai talebau, ond mae hefyd yn annog disgyblion a'u teuluoedd i ailgylchu eu batris. Y llynedd cymerodd 48 o ysgolion cynradd Powys ran yn y gystadleuaeth, gan gasglu ac ailgylchu dros dair tunnell o fatris! Byddwn yn annog pob ysgol yn y sir i gofrestru eleni a dechrau ailgylchu.
"Mae batris wedi'u gwneud o fetelau ailgylchadwy gan gynnwys dur, plwm, cadmiwm, sinc, lithiwm a mercwri. Bydd pob batri a gesglir gan ysgol yn cael ei ddadosod a bydd y deunyddiau a adferwyd yn cael eu defnyddio i wneud batris newydd ac eitemau eraill, yn hytrach na chael eu colli am byth.
"Mae addysgu cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd ailgylchu yn waith pwysig iawn. Bydd ysgolion sy'n cymryd rhan yn meithrin negeseuon ymddygiadau ailgylchu da i'r disgyblion ac yn helpu eu cymunedau i leihau allyriadau carbon, hybu cyfraddau ailgylchu, ac ysbrydoli pawb i ailgylchu mwy."
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Blatfform Ailgylchu Ewrop, cynllun cydymffurfio'r cyngor ar gyfer offer trydanol ac electronig gwastraff a batris.
Mae athrawon, llywodraethwyr a rhieni'n cael eu hannog i gofrestru eu hysgol gynradd leol a dechrau casglu'r batris hynny. I gymryd rhan, cysylltwch â'r cyngor drwy anfon e-bost at schoolsbatteries@powys.gov.uk