Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau ysgolion cynradd bellach ar agor

Image of a group of primary school learners in a classroom

1 Hydref 2025

Image of a group of primary school learners in a classroom
Mae ceisiadau bellach ar agor i blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd ym mis Medi 2026, meddai Cyngor Sir Powys.

Mae gan rieni neu ofalwyr tan ddydd Iau 15 Ionawr 2026 i gwblhau eu cais.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Anogir pob rhiant/gofalwr i gwblhau'r cais hwn cyn gynted â phosibl ar gyfer lle mewn ysgol gynradd ym mis Medi 2026.

"Os na chaiff ei gwblhau mewn pryd, yna mae gan hyn y potensial i beryglu lle eu plentyn yn eu hysgol ddewisol."

Mae angen i rieni/Gofalwyr gwblhau cais arlein ar Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Iau 15 Ionawr 2026.

Os na ferdwch wneud cais arlein, cysylltwch ag admissions@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu