Digwyddiadau 'Cadw'n Iach' ym Mhowys

3 Hydref 2025

Fel rhan o fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae prosiect 'Cadw'n Iach' ym Mhowys yn dod â gwasanaethau ac adnoddau lleol ynghyd, gyda'r nod o gryfhau cymunedau a rhoi'r dewisiadau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar unigolion i fyw bywydau iachach, mwy boddhaus.
Gyda nifer o sefydliadau ar gael mewn un lle, mae'r digwyddiadau wedi'u cynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth; addysgu cymunedau am wasanaethau, mentrau ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sy'n addas i'w hanghenion, ac sy'n cysylltu cymunedau; hyrwyddo perthnasoedd ymhlith preswylwyr, annog rhwydweithio, cydweithio, ac ymdeimlad cryfach o gymuned ledled Powys.
Bydd y digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn y mannau canlynol:
- Machynlleth -Dydd Mercher 8 Hydref 2025, 10yb-2yp,Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER
- Y Drenewydd -Dydd Gwener 24 Hydref 2025, 10yb-2yp, Hafan Yr Afon, Y Drenewydd, SY16 2NH.
- Aberhonddu -Dydd Mercher 12 Hydref 2025, 10yb-2yp, Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu, LD3 7AA.
Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal digwyddiadau fel y rhain, fel y gallwn barhau i gefnogi ein cymunedau, darparu'r adnoddau cywir, a helpu i ddod â phobl ynghyd, gan roi cyfle i breswylwyr weld pa wasanaethau sydd ar gael, nad ydynt efallai'n ymwybodol ohonynt.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, felly beth am ichi alw heibio'r un agosaf a chael golwg i weld beth sydd ar gael i chi?"
Mae'r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yn cynnwys, PAVO, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Ynni Severn Wye, Gofal a Thrwsio Powys, Cymdeithas Alzheimer Cymru a mwy.
Gall sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru am ddim drwy anfon e-bost at healthprotection@powys.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://cy.powys.gov.uk/digwyddiadaulles