Y Fflash yn disgleirio'n llachar gyda Gwobr Perfformiad y Flwyddyn

21 Hydref 2025

Wedi'i chynnal gan Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol nid-er-enw blaenllaw'r DU, daeth y gynhadledd flynyddol â thimau o bob cwr o'r wlad ynghyd i ddathlu rhagoriaeth mewn gwasanaethau hamdden. Roedd digwyddiad eleni yn cynnwys siaradwr gwadd arbennig Michael Gunning, nofiwr rhyngwladol ac eiriolwr dros gynhwysiant mewn chwaraeon.
Roedd y Fflash yn sefyll allan am dwf eithriadol, strategaethau ymgysylltu arloesol, ac ymroddiad i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'w aelodau, gyda chynnydd o 9% mewn pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae'r wobr yn adlewyrchu llwyddiant y ganolfan wrth wneud ffitrwydd a lles yn fwy hygyrch ac apelgar i'r gymuned leol.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Powys: "Mae tîm y Fflash wedi gweithio'n anhygoel o galed i adeiladu amgylchedd croesawgar a chefnogol sy'n annog pobl i fod yn egnïol ac aros yn egnïol. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o'u creadigrwydd, eu hegni a'u hymroddiad."
Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Gwsmeriaid, Digidol, a Gwasanaethau Cymunedol: "Llongyfarchiadau i bawb yng Nghanolfan Hamdden y Fflash ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae ennill 'Perfformiad y Flwyddyn' yng Nghynhadledd Genedlaethol Freedom Leisure yn dyst i ymroddiad, creadigrwydd ac ymrwymiad y tîm i lesiant ein cymuned. Mae'r Fflash yn parhau i ddisgleirio fel canolfan fywiog ar gyfer iechyd, ffitrwydd a chynhwysiant yn y Trallwng.
"Mae'r cyflawniad hwn hefyd yn tynnu sylw at gryfder ein partneriaeth â Freedom Leisure. Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, gan helpu trigolion o bob oed i aros yn egnïol, wedi'u cysylltu, a'u cefnogi."
Mae Canolfan Hamdden y Fflash yn parhau i fod yn gonglfaen i'r gymuned leol, gan gynnig ystod eang o weithgareddau a rhaglenni sy'n cefnogi lles corfforol a meddyliol i bob oed.
LLUN: Y Cynghorydd Raiff Devlin, Lee-Anne Williams (Swyddog Datblygu Llesiant Cymunedol, Cyngor Sir Powys) a chydweithwyr o Freedom Leisure.