Treth y Cyngor - angen parhau i dalu treth y cyngor yn ystod apeliadau prisio eiddo

21 Hydref 2025

Mae'r nodyn atgoffa, a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys, yn arbennig o berthnasol i berchnogion cartrefi gwyliau ac ail eiddo sy'n destun apêl sy'n cael ei ystyried gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ôl symud o dalu ardrethi busnes i dreth y cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae'n bwysig i berchnogion eiddo ddeall bod y rhwymedigaeth statudol i dalu treth y cyngor yn parhau tra bod unrhyw apêl yn cael ei hadolygu. Nid yw'r broses apêl yn golygu bod y rhwymedigaeth i dalu treth y cyngor yn cael ei oedi."
Anogir cwsmeriaid sy'n apelio ar brisiad eu heiddo i gysylltu â Thîm Refeniw'r Cyngor ar 01597 827463 i drafod sefydlu cynllun ad-dalu. Os yw apêl yn llwyddiannus, bydd unrhyw ordaliadau'n cael eu had-dalu.