Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd- Sut i gymryd rhan

Gellir lawrlwytho copi o'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft, y gorchymyn rheoleiddio traffig presennol, y cynllun gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig, yr hysbysiad cyntaf i'r wasg a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW BERSON gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill ar y Gorchymyn arfaethedig i'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd 2025, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Noder: Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan dîm y prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth a roesoch i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond os oes angen gwneud hynny i'n galluogi i ddelio â materion yr ydych wedi tynnu ein sylw atynt y byddwn yn datgelu eich manylion personol.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch

Adran Draffig

Neuadd Sir Powys

Llandrindod

Powys

LD1 5LG

Gellir cyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a rhesymau penodol am unrhyw wrthwynebiadau drwy e-bost i traffic@powys.gov.uk erbyn 30 Tachwedd 2025 fan bellaf. Defnyddiwch y geiriad "Sylwadau ar y Terfyn Cyflymder 30mya ar yr A4811 Ffordd Llanidloes" ar linell destun eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau ar y cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu