Hoffem glywed eich barn ar gam cyntaf y campws iechyd a lles yn y Drenewydd

22 Hydref 2025

Dyma gam cyntaf prosiect i wella cyfleusterau iechyd a lles yng Ngogledd Powys, gyda'r uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ysbyty newydd yng nghanol y Drenewydd.
Beth allai'r hyb newydd ei olygu i chi?
- Mynediad i gartref newydd i'r llyfrgell gyhoeddus ochr yn ochr ag ystafelloedd aml-ddefnydd ar gyfer gweithgareddau lles, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan grwpiau gwirfoddol lleol.
- Manteisio ar ganolfan hyfforddi a llyfrgell academaidd newydd, gan gefnogi gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Dod o hyd i gefnogaeth i blant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl i bob oed.
- Ymweld â'n gofod cymunedol a lles gyda lluniaeth.
- Mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol mewn amgylchedd o'r radd flaenaf.
- Ymweld ag adeilad mwy hygyrch i'r rhai sy'n byw ag anableddau gan gynnwys 'lle newid' newydd yn y Drenewydd.
- Profi cyfleusterau gwell ar gyfer gwasanaethau plant (er enghraifft, byddai gwasanaethau plant BIAP yn adleoli o Ynys Y Plant) a Chanolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd.
- Cyrchu gwasanaethau deintyddol cymunedol
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i glywed gan bobl sy'n byw yn, ac ar gyrion y Drenewydd am y cynlluniau hyn i ddod ag ystod eang o wasanaethau ynghyd o dan un to, gan ei gwneud hi'n haws i chi a'ch teulu gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Bydd eich barn yn cyfrannu at gais am gyllid i Lywodraeth Cymru a allai, os yw'n llwyddiannus, weld buddsoddiad o £30 miliwn mewn cyfleusterau iechyd a lles yn y Drenewydd.
Byddai cynigion cyllido pellach yn cael eu gwneud yn y dyfodol ar gyfer camau nesaf y cynllun gan gynnwys cyfleusterau modern i gymryd lle Ysbyty Sir Drefaldwyn yn y Drenewydd.
Bydd tîm o'r bartneriaeth - Rhaglen Lles Gogledd Powys - yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus i drafod y cynigion ar gyfer y ganolfan iechyd a lles.
Mae'r arolwg ar-lein ar y wefan hon ar gael tan 16eg Tachwedd a bydd copïau caled o'r arolwg ar gael mewn llyfrgelloedd yng ngogledd Powys tan 13eg Tachwedd.
Dewch i gwrdd â'r tîm:
- Dydd Mercher Hydref 29ain, 12yp i 2yp yn Hafan yr Afon, Lôn Gefn, Y Drenewydd
- Dydd Iau Tachwedd 6ed, 4yp-6.30yh yn Hafan yr Afon, Lôn Gefn, Y Drenewydd
Cynhelir sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd ar-lein hefyd ddydd Llun 10fed Tachwedd am 6yh-7yh a byddwn yn cyhoeddi'r manylion hyn yn yr wythnosau nesaf.
Bydd eich barn yn helpu llunio cais am gyllid o £30 miliwn, a ddisgwylir i'w gyflwyno gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn. Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru - ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio - gallai'r ganolfan newydd agor o fewn tair blynedd.
Nod y prosiect yw creu cymuned iachach, fwy cysylltiedig, gyda mynediad haws at wasanaethau ataliol sy'n eich helpu chi aros yn iach ac osgoi teithiau diangen i'r ysbyty.
Dyma gam cyntaf prosiect aml-gam i wella gwasanaethau iechyd a lles ledled Gogledd Powys. Yn dilyn ein cais am gyllid y gaeaf hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd i'r Drenewydd a chyfleusterau diagnosteg a thriniaeth newydd.
Mae'r datblygiadau hyn bellach yn cael eu cyflawni drwy raglen aml-gam yn hytrach nag un cais am gyllid. Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod dull graddol ar gyfer campws y Drenewydd yn fwy tebygol o fod yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy i'r pwrs cyhoeddus.