22 o gartrefi ychwanegol ar gael i'w rhentu drwy'r cyngor

23 Hydref 2025

Prynodd bedwar adeilad newydd oddi ar ddatblygwr preifat yn Ystradgynlais (Parc Brynygroes) a 18 eiddo hŷn.
Roedd y 18 i gyd wedi bod yn dai cyngor o'r blaen, cyn iddynt gael eu prynu gan eu tenantiaid drwy'r cynllun hawl i brynu. Maent yn y Drenewydd, Ystradgynlais, Llandrindod, Tref-y-clawdd a Llanspyddid.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae prynu eiddo 'oddi ar y silff' yn ffordd wych o ehangu ein stoc tai cyngor yn gyflym, i helpu i ddiwallu'r galw am gartrefi fforddiadwy, ac yn y dyfodol, byddwn yn ychwanegu ato ymhellach gyda mwy o'n datblygiadau ein hunain.
"Mae pawb yn haeddu lle saff, diogel a fforddiadwy i fyw ynddo, a byddwn yn cyflawni hynny i breswylwyr drwy ein Cynllun yn y Cartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai."
Mae'r Cynllun Yn y Cartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai yn rhaglen bum mlynedd i gynyddu nifer y cartrefi o ansawdd uchel sydd ar gael i'w rhentu'n gymdeithasol ledled y sir. Mae'n cynnwys nod o adeiladu mwy na 430 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2029-30 fel rhan o becyn buddsoddi gwerth dros £151m.
Gwneir cais am dai cymdeithasol drwy wefan Cartrefi ym Mhowys: https://www.homesinpowys.org.uk/
Mae'r gofrestr tai cyffredin ar gyfer cartrefi Cyngor Sir Powys a'r rhai a gynigir gan wyth cymdeithas dai wahanol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor: Gwneud cais am dŷ cymdeithasol
LLUN: Parc Brynygroes yn Ystradgynlais.