Crew Green a Coedway - Sut i gymryd rhan
Gellir lawrlwytho copi o'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drafft, y gorchymyn rheoleiddio traffig presennol, y cynllun gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig, yr hysbysiad cyntaf i'r wasg a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r wefan hon.
Ni chaiff UNRHYW BERSON gyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill i'r Gorchymyn arfaethedig i'r llofnodwr yn ysgrifenedig, gan nodi eu sail gadarn dros wrthwynebu, yn hwyrach na 30 Tachwedd 2025.
Noder: Os hoffech wrthwynebu, cefnogi neu wneud sylwadau, bydd eich gohebiaeth yn cael ei hystyried gan y tîm prosiect ac efallai y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni a'ch data personol. Fodd bynnag, dim ond pan fo angen gwneud hynny er mwyn ein galluogi i ddelio â materion rydych chi wedi'u dwyn i'n sylw y byddwn yn datgelu eich manylion personol.
Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd Sir Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Gellir cyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill, y mae'n rhaid iddynt gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a rhesymau cyfiawn dros unrhyw wrthwynebiadau, drwy e-bost i traffic@powys.gov.uk erbyn 30 Tachwedd 2025 fan bellaf. Defnyddiwch y geiriad "Cynrychiolaeth Adolygu Terfynau Cyflymder Crew Green a Coedway" fel llinell bwnc eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau i'r cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.
