Diweddaru rhwydwaith mannau cynnes Powys
4 Tachwedd 2025
Mae'r cyngor sir yn diweddaru ei rwydwaith o fannau sy'n cynnig rhywle i breswylwyr gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn ystod y tywydd oerach. Mae hefyd yn agored i geisiadau, gan y sawl sy'n eu rhedeg, a grantiau i wneud gwelliannau.
Gall unrhyw sefydliad, busnes neu grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn cael eu cynnwys ar y gofrestr gael gwybod mwy a chyflwyno eu manylion drwy wefan y cyngor: Creu mannau cynnes i Bowys
Dylai'r rhai sydd wedi darparu'r gwasanaeth o'r blaen fod wedi derbyn e-bost gan y cyngor, yn gofyn a ydynt am barhau ac a oes unrhyw newidiadau i'r hyn sy'n cael ei gynnig.
"Mae'r mannau hygyrch, diogel a chynnes hyn yn achubiaeth wirioneddol i rai o'n trigolion mwyaf bregus yn ystod y gaeaf." meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach. "Felly, os ydych yn meddwl y gallwch helpu eich cymuned, cofrestrwch eich manylion ac ystyriwch wneud cais am grant.
"Gellir defnyddio'r cyllid hwn i sefydlu, neu ailsefydlu, man cynnes, neu i wneud gwelliannau."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £1.5 miliwn i gynghorau ledled Cymru ar gyfer y gwaith hwn, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sefydlu mannau cynnes ym Mhowys, neu restriad sy'n bodoli eisoes, e-bostiwch: costofliving@powys.gov.uk
LLUN: Mae hyb cymunedol Cross Keys yn Llanfyllin yn cael ei ddefnyddio fel man cynnes. Llun: Cross Keys, Llanfyllin
