Gwaith i Atgyweirio Pont Llandrinio yn Dechrau'n Fuan
6 Tachwedd 2025
Ers y digwyddiad, a achosodd ddifrod strwythurol sylweddol i'r groesfan hanesyddol hon, mae timau'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda chontractwyr a rhanddeiliaid i asesu'r difrod a chynllunio'r atgyweiriadau angenrheidiol. Y flaenoriaeth yw adfer y bont yn ddiogel ac yn effeithlon, ond ar yr un pryd cadw ei gwerth treftadaeth.
Bydd y gwaith atgyweirio arfaethedig yn cynnwys:
- Adfer gwaith cerrig gwreiddiol o'r afon,
- Atgyweiriadau strwythurol llawn gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith yn para tair wythnos, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- Amodau'r afon, a allai effeithio ar adfer y cerrig yn ddiogel,
- Argaeledd cerrig newydd addas, o ran cyrchu a maint,
- Amodau'r tywydd yn enwedig tymereddau isel, a all effeithio ar ddefnyddio morter calch sy'n hanfodol ar gyfer yr atgyweiriadau.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach:
"Rydym yn deall pa mor bwysig yw Pont Llandrinio i'r gymuned a chysylltiadau lleol. Mae ein timau'n gweithio'n galed i ddarparu atgyweiriad diogel a pharhaol cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i beidio a tharfu'n ormodol, ond ar yr un pryd cadw integriti'r strwythur hanesyddol hwn.
"Hoffwn ddiolch i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn ystod y cyfnod hwn."
