Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffliw adar wedi'i gadarnhau ger Y Trallwng

Image of a chicken

10 Tachwedd 2025

Image of a chicken
Parthau rheoli clefydau sydd wedi'u datgan yn dilyn achos wedi'i gadarnhau o ffliw adar yn ardal y Trallwng, meddai Cyngor Sir Powys.

Mae achos o ffliw adar H5N1 Pathogenig Iawn wedi'i gadarnhau mewn safle ger y Trallwng, meddai'r cyngor sir.

Mae parthau rheoli clefydau 3km a 10km wedi'u datgan o amgylch y safle gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, i gyfyngu ar y risg o ledaenu'r clefyd.

O fewn y parth hwn, mae symudiadau ac ymgynnull adar wedi'u cyfyngu a rhaid datgan pob daliad sy'n cadw adar.

Atgoffir perchnogion adar y tu allan i'r parth gwarchod a'r parth gwyliadwriaeth y bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled Cymru tan hysbysiad pellach.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob ceidwad adar yng Nghymru (boed ganddyn nhw adar anwes, haid fasnachol neu haid yn eu gardd gefn) barhau i gydymffurfio â'r mesurau bioddiogelwch gorfodol a chwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol tan hysbysiad pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Diogelach: "Mae'n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddynt y lefelau bioddiogelwch uchaf ar waith.

"Mae hefyd yn bwysig nad yw pobl yn cyffwrdd ag unrhyw adar sâl neu farw nac yn eu codi er mwyn osgoi lledaenu'r feirws.

"Mae cyngor iechyd y cyhoedd yn parhau i fod y risg i iechyd pobl o'r feirws yn isel iawn ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU."

Cyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:

  • Dylai pob ceidwad adar a gedwir fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd fel cynnydd mewn marwolaethau, gofid anadlol a gostyngiadau mewn cymeriant bwyd neu ddŵr, neu gynhyrchu wyau.
  • Holwch eich milfeddyg yn y lle cyntaf os yw'ch adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad i'r clefyd gan filfeddygon yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Rhaid i chi gymhwyso mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu wely a allai fod wedi'u halogi gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle.

Os byddwch chi'n dod o hyd i adar dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech chi roi gwybod amdanynt i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ar ffliw adar, ewch i Ffliw adar

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu