'Gadewch olion pawennau yn unig': Cyngor Sir Powys yn ymuno â Cadwch Gymru'n Daclus i fynd i'r afael â baw cŵn
12 Tachwedd 2025
Wrth i'r diwrnodau fyrhau, mae Cyngor Sir Powys yn rhybuddio y gallai baw cŵn sy'n cael ei adael ar ôl gan berchnogion fod yn cyflwyno hyd yn oed mwy o risg i iechyd y cyhoedd nag y credwyd yn flaenorol.
Gan ei fod yn hysbys bod achosion o faw cŵn yn cynyddu wrth i oriau golau ddydd fyrhau, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus ar ei ymgyrch baw cŵn, 'Gadewch Olion Pawennau yn Unig'. Gyda dyfodiad nosweithiau tywyllach a thywydd gwael, gallai rhai perchnogion feddwl na fyddant yn cael eu gweld yn gadael baw eu cŵn ar ôl, neu gallent fod yn llai parod i aros yn yr oerfel a'r glaw, ond mae'r effaith ar y mannau yr ydym yn eu rhannu hyd yn oed yn fwy nag y credwyd yn flaenorol.
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth wedi canfod bod baw cŵn sydd ddim yn cael ei godi gan berchnogion yn aml yn cynnwys lefelau uwch o barasitiaid a bacteria niweidiol. Yn ôl yr astudiaeth, mae hyn am fod y gwastraff hwn yn fwy tebygol o ddod oddi wrth gŵn sydd ddim yn cael y gofal cywir neu'n cael triniaeth gwaredu llyngyr yn rheolaidd gan eu perchnogion.
Er bod arolygon LEAMS (System Reoli ar gyfer Archwilio'r Amgylchedd) Cadwch Gymru'n Daclus yn dangos tuedd am i lawr mewn baw cŵn ar strydoedd, mae'r elusen yn rhybuddio bod y mater yn dal yn eang mewn ardaloedd heb eu cynnwys yn yr arolygon, yn cynnwys parciau, ymyl ffyrdd a llwybrau gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach:
"Baw cŵn yw'r math mwyaf annerbyniol a sarhaus o sbwriel ar ein strydoedd ac yn ein mannau agored ac nid oes angen hynny mewn gwirionedd.
"Fel perchennog ci fy hunan, rwy'n gwerthfawrogi pa mor lwcus ry'n ni bod gan Bowys gymunedau gwych sy'n gyfeillgar i gŵn a digon o le i ymarfer ein cyfeillion pedair coes. Ond gyda'r llawenydd o berchen anifail anwes daw'r cyfrifoldeb o lanhau ar eu holau.
"Mae'n hollol annerbyniol i beidio â glanhau ar ôl eich ci ac mae'n wastraff o adnoddau'r cyngor ac arian trethdalwyr i gael y glanhawyr stryd i lanhau ar ôl perchnogion anghyfrifol. Bagiwch a biniwch a gadewch olion pawennau pan fyddwch yn cerdded eich ci y tro nesaf."
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus:
"Mae'n galonogol gweld llai o ddigwyddiadau o faw cŵn ar ein strydoedd, ond nid yw hyn yn dweud y stori lawn. Gwyddom fod baw cŵn yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn parciau a mannau gwyrdd, yn enwedig wrth i'r nosweithiau gau i mewn. Mae nid yn unig yn annymunol, ond mae'n berygl gwirioneddol i iechyd pobl ac anifeiliaid anwes. Does dim esgus - bagiwch, biniwch, a helpwch ni i gadw Cymru'n lân ac yn ddiogel i bawb."
Nod yr ymgyrch, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw annog perchnogion cŵn ledled Cymru i adael olion pawennau yn unig trwy godi baw eu cŵn.
