'Cartref Diogel Gartref'
13 Tachwedd 2025
Yn gyffredinol, mae Safonau Masnach yn gweld gwaith anniogel yn cael ei wneud gan fasnachwyr sydd wedi rhedeg busnesau lleol oedd cydymffurfio yn y gorffennol, ond sy'n cael eu temtio gan y cyfle i ennill arian mawr ac ymgymryd â phrosiectau ar raddfa fawr nad ydynt yn aml iawn â'r gallu, yr arbeniged na'r adnoddau i'w cyflawni. Mae ymchwiliadau'n aml yn datgelu tanamcangyfrif o gost gwaith, sy'n arwain at blaendaliadau gan gwsmeriaid newydd yn cael eu defnyddio i dalu am gontractau a danariannwyd yn gynt, mewn sefyllfa 'talu'r hen a dwyn y newydd'. Mae hyn yn mynd allan o reolaeth yn gyflym ac mae defnyddwyr yn cael eu gadael â gwaith sy'n anghyflawn, wedi'i gam-ddisgrifio, yn beryglus ac o ychydig iawn o werth, ac yn wynebu nid yn unig caledi ariannol ond hefyd embaras a gofid meddyliol.
Mae Safonau Masnach hefyd yn nodi nad yw'r defnyddwyr bellach yn gyfyngedig i'ch defnyddiwr bregus nodweddiadol sy'n gysylltiedig â'r math hwn o drosedd, ond yn aml maent yn llawer iau, yn fwy craff ac wedi treulio amser yn ymchwilio i fasnachwyr cyn ymrwymo i'r contractau.
Mae'r enghreifftiau'n cynnwys:
- Ffenestr to defnyddiwr wedi'i sicrhau gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel sêl mastig ac o ganlyniad fe chwythodd i ffwrdd mewn gwyntoedd cryfion gan chwalu yn erbyn adeilad gardd arall;
- Defnyddiwr yn cael ei adael heb ddŵr cynnes, tŷ oer, anniogel, dim cegin, dim ystafell fwyta a thŷ yn agored i'r tywydd am flwyddyn;
- Defnyddiwr yn byw ac yn coginio yn ei lolfa gyda cheblau trydanol byw yn hongian o'r nenfwd. Roedd y masnachwr wedi gadael y trydan mewn cyflwr o'r fath pan ddaeth trydanwr i'w gywiro roedd o'r farn fod y tŷ wedi cael ei adael mewn cyflwr a oedd yn peryglu bywyd.
Yn gynyddol, mae achosion llys a ddygir gan Safonau Masnach yng Nghymru yn arwain at ddedfrydau o garchar, ond mae diffyg arian neu asedau sydd ar gael yn golygu nad yw defnyddwyr yn gallu adennill arian drwy'r llysoedd troseddol neu sifil.
Mae Safonau Masnach Cymru yn cynnig rhybudd i ddefnyddwyr pan fyddant yn chwilio am grefftwyr i wneud gwaith yn eu cartref, gyda negeseuon i:
- Gael dyfynbris ysgrifenedig a disgrifiad o'r gwaith sydd i'w wneud ymlaen llaw
- Cael enw a chyfeiriad llawn y busnes
- Cael gwybodaeth am y cyfnod ailfeddwl statudol, pan allwch ystyried y gost, y gwaith dan sylw ac a yw'r masnachwr hwnnw yn addas i chi
- Cytuno bod unrhyw waith pellach sydd angen ei wneud yn cael ei esbonio wrthoch chi er mwyn i chi benderfynu a ydych eisiau symud ymlaen
- Bydd talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le
- Cael enwau llawn a disgrifiadau o bobl sy'n gweithio yn eich cartref, yn ogystal â rhif cofrestru, disgrifiad ac unrhyw arwyddion ar gerbydau a ddefnyddir
- Ystyried chwilio drwy gorff masnach cymeradwy, sydd yn aml yn cynnig cyfryngu os aiff pethau o chwith
Mae Safonau Masnach Cymru yn lansio cynllun Prynu gyda Hyder Cymru gyfan yn ystod wythnos Sbotolau Safonau Masnach. Gwyddom fod llawer o fusnesau go iawn allan yna, y mae eu henw'n cael ei ddifetha gan y gweithredwyr llai na gonest hynny sy'n masnachu.
I gyd-fynd â Sbotolau Safonau Masnach Cymru, rydym yn cynnig gostyngiad yn y ffi flwyddyn gyntaf i fusnesau yng Nghymru sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun Prynu Gyda Hyder rhwng 13eg Tachwedd a 31ain Mawrth 2026, gan ddefnyddio'r cod cynnig 'Sbotolau'.
Gall busnesau ddysgu mwy drwy wefan Prynu gyda Hyder sydd ar gael yma: Prynu gyda hyder a gallwch gael mwy o fanylion am y cynnig wythnos Sbotolau ar wefan Safonau Masnach Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.safonaumasnach.llyw.cymru/cym/tswweek
