Toglo gwelededd dewislen symudol

'Cartref Diogel Gartref'

Delwedd o gyngor Cartref Diogel

13 Tachwedd 2025

Delwedd o gyngor Cartref Diogel
Mae Safonau Masnach Cymru (TSW) yn rhybuddio, er y gallai masnachwyr twyllodrus sy'n gwneud gwaith ar eich cartref eich gadael ar eich colled, mae risg gynyddol y byddant hefyd yn gadael eich cartref yn anniogel.

Yn gyffredinol, mae Safonau Masnach yn gweld gwaith anniogel yn cael ei wneud gan fasnachwyr sydd wedi rhedeg busnesau lleol oedd cydymffurfio yn y gorffennol, ond sy'n cael eu temtio gan y cyfle i ennill arian mawr ac ymgymryd â phrosiectau ar raddfa fawr nad ydynt yn aml iawn â'r gallu, yr arbeniged na'r adnoddau i'w cyflawni.  Mae ymchwiliadau'n aml yn datgelu tanamcangyfrif o gost gwaith, sy'n arwain at blaendaliadau gan gwsmeriaid newydd yn cael eu defnyddio i dalu am gontractau a danariannwyd yn gynt, mewn sefyllfa 'talu'r hen a dwyn y newydd'.  Mae hyn yn mynd allan o reolaeth yn gyflym ac mae defnyddwyr yn cael eu gadael â gwaith sy'n anghyflawn, wedi'i gam-ddisgrifio, yn beryglus ac o ychydig iawn o werth, ac yn wynebu nid yn unig caledi ariannol ond hefyd embaras a gofid meddyliol.

Mae Safonau Masnach hefyd yn nodi nad yw'r defnyddwyr bellach yn gyfyngedig i'ch defnyddiwr bregus nodweddiadol sy'n gysylltiedig â'r math hwn o drosedd, ond yn aml maent yn llawer iau, yn fwy craff ac wedi treulio amser yn ymchwilio i fasnachwyr cyn ymrwymo i'r contractau.

Mae'r enghreifftiau'n cynnwys:

  • Ffenestr to defnyddiwr wedi'i sicrhau gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel sêl mastig ac o ganlyniad fe chwythodd i ffwrdd mewn gwyntoedd cryfion gan chwalu yn erbyn adeilad gardd arall;
  • Defnyddiwr yn cael ei adael heb ddŵr cynnes, tŷ oer, anniogel, dim cegin, dim ystafell fwyta a thŷ yn agored i'r tywydd am flwyddyn;
  • Defnyddiwr yn byw ac yn coginio yn ei lolfa gyda cheblau trydanol byw yn hongian o'r nenfwd. Roedd y masnachwr wedi gadael y trydan mewn cyflwr o'r fath pan ddaeth trydanwr i'w gywiro roedd o'r farn fod y tŷ wedi cael ei adael mewn cyflwr a oedd yn peryglu bywyd.

Yn gynyddol, mae achosion llys a ddygir gan Safonau Masnach yng Nghymru yn arwain at ddedfrydau o garchar, ond mae diffyg arian neu asedau sydd ar gael yn golygu nad yw defnyddwyr yn gallu adennill arian drwy'r llysoedd troseddol neu sifil.

Mae Safonau Masnach Cymru yn cynnig rhybudd i ddefnyddwyr pan fyddant yn chwilio am grefftwyr i wneud gwaith yn eu cartref, gyda negeseuon i:

  • Gael dyfynbris ysgrifenedig a disgrifiad o'r gwaith sydd i'w wneud ymlaen llaw
  • Cael enw a chyfeiriad llawn y busnes
  • Cael gwybodaeth am y cyfnod ailfeddwl statudol, pan allwch ystyried y gost, y gwaith dan sylw ac a yw'r masnachwr hwnnw yn addas i chi
  • Cytuno bod unrhyw waith pellach sydd angen ei wneud yn cael ei esbonio wrthoch chi er mwyn i chi benderfynu a ydych eisiau symud ymlaen
  • Bydd talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le
  • Cael enwau llawn a disgrifiadau o bobl sy'n gweithio yn eich cartref, yn ogystal â rhif cofrestru, disgrifiad ac unrhyw arwyddion ar gerbydau a ddefnyddir
  • Ystyried chwilio drwy gorff masnach cymeradwy, sydd yn aml yn cynnig cyfryngu os aiff pethau o chwith

Mae Safonau Masnach Cymru yn lansio cynllun Prynu gyda Hyder Cymru gyfan yn ystod wythnos Sbotolau Safonau Masnach.  Gwyddom fod llawer o fusnesau go iawn allan yna, y mae eu henw'n cael ei ddifetha gan y gweithredwyr llai na gonest hynny sy'n masnachu. 

I gyd-fynd â Sbotolau Safonau Masnach Cymru, rydym yn cynnig gostyngiad yn y ffi flwyddyn gyntaf i fusnesau yng Nghymru sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun Prynu Gyda Hyder rhwng 13eg Tachwedd a 31ain Mawrth 2026, gan ddefnyddio'r cod cynnig 'Sbotolau'.

Gall busnesau ddysgu mwy drwy wefan Prynu gyda Hyder sydd ar gael yma: Prynu gyda hyder a gallwch gael mwy o fanylion am y cynnig wythnos Sbotolau ar wefan Safonau Masnach Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.safonaumasnach.llyw.cymru/cym/tswweek

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu