Prosiectau Canolbarth Cymru yn symud i'r cam prototeipiau i ddarparu atebion ynni glân yn y byd go iawn
13 Tachwedd 2025
Yn dilyn gwaith llwyddiannus ar ddichonolrwydd yn ystod Cam 1 ddechrau 2025, mae sawl prosiect wedi cael cymorth erbyn hyn ac mae tua £500,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesi o ran yr hinsawddwedi'i glustnodi er mwyn galluogi prosiectau i symud ymlaen i Gam 2 lle byddant yn ymdrechu ar y cyd i ddatblygu prototeipiau ac arddangoswyr.
Bydd hynny'n ei gwneud yn bosibl rhoi prawf arnynt yn y byd go iawn, eu mireinio a chreu atebion y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa fwy ac sy'n hyfyw yn fasnachol ar gyfer economi wledig, carbon isel.
Dyma'r tri phrosiect a fydd yn symud yn eu blaen gyda chyllid Cam 2:
1. HARVEST (Holistic Agricultural and Rural Virtual Energy System Transition -Trawsnewid System Ynni Rhithwir Gwledig ac Amaethyddol Holistaidd)
Dan arweiniad y Ganolfan ar gyfer Cydraddoldeb Ynni gyda phartneriaid 'Severn Wye Energy Agency', 'Challoch Energy', Prifysgol Caerdydd, 'Energy Local' a 'Llanidloes Futures'. Bydd HARVEST yn dangos sut y gall cymunedau gwledig gynhyrchu, rhannu a storio ynni adnewyddadwy.
Mae elfennau allweddol yn cynnwys:
- Datblygu Gorsaf Bŵer Rithwir Gymdeithasol i gysylltu a rheoli defnydd ynni cymunedol yn ddigidol.
- Profi atebion solar a batri ar gyfer parciau busnes.
- Archwilio hydrogen a microgridiau clyfar mewn pentrefi.
- Creu offer rhagfynegi uwch i gydbwyso rhwng y cyflenwad a'r galw.
Mae HARVEST hefyd yn elwa o gyllid ar wahân gwerth £660,000 gan Ynni Cymru, a ddyfarnwyd yn uniongyrchol i grŵp cymunedol Llanidloes, ar gyfer ehangu capasiti lleol i gynhyrchu a storio ynni.
2. LAFAN
Dan arweiniad Lafan CYF gyda Choleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio slyri da byw yn gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli maetholion.
Mae elfennau allweddol yn cynnwys:
- Optimeiddio technolegau gwahanu slyri i wella cynnyrch bio-nwy.
- Mesur effaith garbon y prosesau i gefnogi masnachu carbon.
- Dylunio systemau i gludo maetholion fferm dros ben i ganolfannau trin canolog.
- Cynhyrchu ynni carbon isel a bio-olosg ar gyfer defnydd lleol a seilio carbon.
- Rhannu canfyddiadau gyda'r sector amaethyddol i gefnogi arferion ffermio allyriadau isel.
3. W2W (Water to Water)
Dan arweiniad W2W gyda First Milk, Thornton Tomasetti, OnGen a CamNesa Consulting, mae W2W yn creu teclyn gwe rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio i helpu ffermwyr llaeth gyflawni sero net.
Mae elfennau allweddol yn cynnwys:
- Casglu data amser real ynghylch y galw am ynni ar ffermydd er mwyn gwella cywirdeb gwaith modelu.
- Profi'r teclyn gyda 14 o ffermydd yng Nghanolbarth Cymru, gyda'r potensial i'w ehangu i gannoedd ar draws Cymru a'r DU.
- Cynnwys technolegau megis solar, batris, treuliad anaerobig micro a storio iâ.
- Galluogi ffermwyr i ddylunio systemau ynni modiwlaidd, graddadwy gan ddefnyddio cydrannau safonol.
- Gwneud cynllunio ynni adnewyddadwy yn hygyrch i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol, gyda adroddiadau clir, ymarferol.
Caiff yr holl gyllid Cam 2 ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy Tyfu Canolbarth Cymru. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd y prosiectau hyn yn dechrau creu prototeipiau ac yn dechrau rhoi prawf arnynt, a disgwylir y bydd y canlyniadau ar gael yn 2026.
Mewn dyfyniad ar y cyd gan Arweinwyr Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Roedden ni'n falch o arddangos cynnydd y rhaglen WSRID yn Sioe Frenhinol Cymru yr haf hwn, gan dynnu sylw at gryfder y cydweithio a'r arloesedd sydd eisoes yn digwydd yng Nghanolbarth Cymru. Rydym bellach yn gyffrous i weld cam nesaf y rhaglen yn symud ymlaen.
Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall arloesi, cydweithio a chyfranogiad cymunedol weithio law yn llaw i ddarparu atebion ymarferol. Drwy brofi a dangos dulliau newydd yn ein rhanbarth, rydym yn helpu i greu system ynni gryfach, decach a gwyrddach - ac yn darparu modelau y gellir eu hailadrodd ledled Cymru a thu hwnt."
Bydd diweddariadau ar y prosiectau'n cael eu rhannu yng nghylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru - e-bostiwch growingmidwales@ceredigion.gov.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio.
