Chwarae ym Mhowys
Os ydych chi'n sefydliad sy'n darparu cyfleoedd chwarae, ychwanegwch eich gwybodaeth at Dewis Cymru. Dewis Cymru yw'r porth canolog ar gyfer gwybodaeth lles yng Nghymru.
"Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill."
(Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Erthygl 31)
Mannau i Chwarae
Bydd plant yn chwarae unrhyw le ar unrhyw amser o gael y cyfle. Fel rhieni/gofalwyr, y sawl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac yn byw neu weithio mewn cymunedau, mae gennym gyfrifoldeb i greu'r amodau cywir er mwyn i blant gael mynediad at gyfleoedd i chwarae.
G allwch chwilio am fannau i chwarae ym Mhowys, gan gynnwys mannau gwyrdd agored a mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Chwarae yn y Gymuned ar wefannau a thudalennau Facebook Gwasanaethau Chwarae Cymunedol:
Llyfrgell Adnoddau Chwarae
Mae llyfrgelloedd adnoddau chwarae yn cynnig gwasanaethau i deuluoedd, prosiectau chwarae a darparwyr gofal plant lleol. Gallant gynnig ystod eang o deganau ar fenthyciad, ynghyd â chyflwyno sesiynau chwarae i blant a rhieni, gwybodaeth a chyngor am deganau a chwarae a man cyfarfod cyfeillgar i rieni a gofalwyr.
Gall cael mynediad at lyfrgell adnoddau chwarae helpu plant trwy roi mynediad at amrywiaeth cyfoethog o deganau ac adnoddau chwarae o ansawdd uchel, gan gynnig teganau sy'n addas i alluoedd plant sydd ag anghenion ychwanegol a galluogi plant i ddatblygu sgiliau hanfodol trwy ddysgu trwy chwarae.
Canolbarth a Gogledd Powys - Mae Chwarae - Sir Faesyfed yn croesawu amrywiaeth o brosiectau yn y Play Hub a thu hwnt. Maent hefyd yn darparu prosiectau cymunedol a chwarae, yn aml mewn partneriaeth â Rhwydweithiau Chwarae eraill neu asiantaethau sy'n bartneriaid. Maent yn rhedeg llyfrgell deganau ac mae croeso i sefydliadau neu unigolion ddod atynt i logi eitemau ar gyfer partïon a digwyddiadau. Mae eu Neuadd hefyd ar gael i'w llogi. I gael rhagor o fanylion, ewch i'w gwefan, ffoniwch nhw ar 01597 829440 neu anfonwch e-bost admin@playradnor.org.uk
Darllenwch Grynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022 yma
Lawrlwythwch
Becyn Gwaith Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys (PDF)
[2MB] yma