Ceisiadau Dofednod a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru
18 Tachwedd 2025
Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi ysgrifennu at y cyngor sir yn dweud wrthynt fod 12 cais cynllunio ar gyfer unedau dofednod wedi cael eu galw i mewn i'w hystyried.
Mae'r ceisiadau wedi bod yn destun Cyfarwyddebau Daliadau Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2023 sy'n golygu na allai'r awdurdod cynllunio wneud unrhyw benderfyniad.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, Jake Berriman; "Rwy'n croesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i alw'r ceisiadau cynllunio hyn i mewn gan ei fod o'r diwedd yn dod â'r ansicrwydd a wynebir gan ymgeiswyr i ben wrth beidio â gwybod sut y byddai eu ceisiadau yn cael eu trin.
"Ysgrifennais yn ddiweddar at Ysgrifennydd y Cabinet yn mynegi pryderon bod y ceisiadau a gyflwynwyd yn ddidwyll wedi bod yn destun cyfarwyddebau ers mis Mawrth 2023. Heb os, bydd rhai o'r ymgeiswyr yr wyf wedi siarad â hwy yn siomedig i beidio â chael newyddion mwy cadarnhaol, yn enwedig gan y bydd goblygiadau ariannol i'r broses gynllunio barhaus, ond o leiaf mae'n dod ag ychydig mwy o eglurder.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr alwad i mewn yn arwydd o ddiwedd yr oedi hir iawn a brofir gan yr ymgeiswyr, nad ydynt ymhellach ymlaen heddiw o ran dargyfeirio eu gweithgareddau fferm, sy'n angenrheidiol i sicrhau dyfodol eu ffermydd teuluol, nag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl."
