Galw ar landlordiaid i ymuno â Chynllun Bondiau Powys a helpu i fynd i'r afael â digartrefedd
19 Tachwedd 2025
Mae Cynllun Bondiau Powys, a reolir gan Gyngor Sir Powys, yn cynnig Bond Papur i landlordiaid yn hytrach na blaendal arian parod traddodiadol. Mae hyn yn cynnwys difrod ac ôl-ddyledion rhent, tra bod tenantiaid yn cynilo tuag at eu blaendal eu hunain dros ddwy flynedd mewn cyfrif Undeb Credyd, gyda chefnogaeth y tîm Bondiau.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Tai: "Mae Cynllun Bondiau Powys yn ffordd wych i landlordiaid wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.
"Trwy ymuno â'r cynllun, ry'ch chi'n helpu rhywun i osgoi digartrefedd tra'n sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth ein tîm ymroddedig bob cam o'r ffordd. Gyda'n gilydd, gallwn ddarparu cartrefi diogel ac adeiladu cymunedau cryfach."
Sut mae'r Bond Papur yn gweithio:
- Nid oes angen blaendal arian parod: mae'r Bond Papur yn cynnwys difrod ac ôl-ddyledion rhent hyd at werth blaendal traddodiadol.
- Cymorth cynhwysfawr: o archwiliadau eiddo a rhestri i gytundebau tenantiaeth a chyngor parhaus.
- Diogelwch a safonau: rhaid i bob landlord fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a bodloni safonau eiddo.
Os bydd heriau'n codi yn ystod y denantiaeth, bydd y tîm Bondiau'n cymryd camau i gynnig cymorth ac opsiynau ariannu i atal methiant.
I gael gwybod mwy, ewch i Rhenti a Bondiau Preifat.
