Cabinet Powys yn cefnogi'r camau nesaf ar gyfer Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn unfrydol
19 Tachwedd 2025
Dengys modelu diweddar gan CRhDDH, yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb eithafol, y gallai fod angen i'r rhanbarth reoli dros 100 miliwn metr ciwbig o ddŵr llifogydd, sy'n ddigon i gyflenwi anghenion dyddiol hanner miliwn o bobl am bron i bedair blynedd.
Mae dadansoddiad annibynnol a gomisiynwyd gan CRhDDH hefyd yn awgrymu y gallai un digwyddiad llifogydd mawr yn nalgylch uchaf Afon Hafren arwain at risg sylweddol i seilwaith, busnesau a'r gymuned leol, gydag amcangyfrif o ddifrod economaidd-gymdeithasol rhwng £111 miliwn a £125 miliwn pe bai'n digwydd y flwyddyn nesaf, gan godi i gymaint â £231 miliwn erbyn 2050 wrth i risgiau hinsawdd ddwysáu.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys Jake Berriman wrth y Cabinet: "Mae hwn yn ddull partneriaeth o weithredu sy'n arwain y sector ac mae'r DU gyfan yn gwylio gyda diddordeb."
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach, y papur a dywedodd: "Nid yw dŵr yn parchu ffiniau. Mae hyn yn dechrau ym Mhowys ac mae'n rhaid i ni wneud hyn. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â gwytnwch a bydd ganddo fudd economaidd yn ogystal â'r manteision natur ac amgylcheddol.
"Mae CRhDDH yn cynnig cyfle i leihau perygl llifogydd, hybu ffermio, gwella'r cyflenwad dŵr, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer ennill bioamrywiaeth, hamdden a busnes lleol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Charlton: "Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i Bowys a Sir Amwythig gydweithio a gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau."
Yn ei gyfarfod ar 18 Tachwedd, cytunodd y Cabinet yn unfrydol i:
- Gadarnhau ymrwymiad y Cyngor fel partner allweddol ar Fwrdd Cyd-Brosiect CRhDDH, gan sicrhau bod cymunedau lleol ym Mhowys a Sir Amwythig yn elwa'n llawn o'r cynllun.
- Cymeradwyo rownd newydd o ymgynghori gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid, gan wahodd trigolion, tirfeddianwyr, busnesau a sefydliadau lleol i roi eu barn ar y cynlluniau sydd ar y gweill.
- Awdurdodi swyddogion i symud y cynllun yn ei flaen, gan weithio'n agos gyda phartneriaid drwy Bartneriaeth y Gororau Ymlaen i gynnal cydweithrediad trawsffiniol cryf.
Ynglŷn â CRhDDH: Menter drawsffiniol yw CRhDDH dan arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig, ac wedi'i hariannu gan Defra. Ei nod yw datblygu strategaeth rheoli dŵr holistaidd ar gyfer dalgylch uchaf afon Hafren, a allai fod yn fodel ar gyfer prosiectau tebyg ledled Prydain.
